Myfyrwyr

Yn Astudio Busnes?

Pa un ai ydych yn astudio busnes o TGAU drwodd i Radd ac Ôl-radd mae gan Linellfusnes amrywiaeth eang o adnoddau all eich helpu.

Mae Llinellfusnes yn rhan o’r Gwasanaeth Llyfrgell ac mae’n cadw casgliad eang o lyfrau busnes a gwerslyfrau a all eich helpu chi gyda’ch astudiaethau. Mae mwyafrif llethol ein llyfrau ar gael i’w benthyca naill ai am gyfnod benthyca safonol neu am gyfnod estynedig ar gyfer myfyrwyr. Y cyfan sydd arnom ei angen yw eich bod yn aelod o Wasanaeth Llyfrgell Wrecsam. I weld sut i ymuno, a beth yw’r cyfnodau benthyca, ewch i brif wefan y llyfrgell. I gael rhagor o wybodaeth am y math o lyfrau sydd gennym, ewch i adran llyfrgell fusnes ein gwefan.

Yn ogystal â’r llyfrau hyn, rydym hefyd yn gallu rhoi mynediad i chi i rai o adroddiadau blaenllaw ymchwil farchnad Prydain. Mae’r rhain yn gallu bod yn ddefnyddiol i’ch astudiaethau, yn enwedig os oes gennych chi waith gosod sy’n golygu sefydlu cynnyrch/gwasanaeth penodol neu ddadansoddi tueddiadau ac ati mewn diwydiant penodol. I gael manylion llawn am yr adroddiadau sydd ar gael a sut i’w cael, mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydym hefyd yn gallu cael ystadegau ar amrywiaeth eang o feysydd e.e. demograffeg yn cwmpasu poblogaeth, iechyd, cludiant a mwy. Os ydych yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r ystadegau sydd arnoch eu hangen, peidiwch â phetruso cyn cysylltu â ni.

Croeso i chi lawrlwytho pecyn trosolwg Llinellfusnes, sy’n rhoi cipolwg mwy cynhwysfawr ar ddetholiad o’n gwasanaethau a’r adnoddau mwyaf poblogaidd.

Cysylltwch â thîm Llinellfusnes yn:

Llinellfusnes
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU

Ffôn: 01978 292092
Ffacs: 01978 292611
Ebost: businessline@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig