Menter Treftadaeth Treflun (MTT) Cefn Mawr

Mae’r MTT, sef menter Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn rhoi grantiau sy’n helpu cymunedau i adfywio rhannau hanesyddol o’u trefni a’u dinasoedd.

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth, rhaid i’ch prosiect:

  • fod o fewn ffiniau’r Fenter Treftadaeth Treflun ac Ardal Gadwraeth.
  • fod yn eiddo o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol neu o werth treflun sylweddol.
  • allu darparu gwelliannau sylweddol i’r amgylchedd.

Yn gyffredinol, byddai cymorth grant ar gael ar gyfer gwaith priodol, gan gynnwys:

  • gwaith atgyweirio sylweddol i adeiladwaith yr adeilad.
  • gwaith atgyweirio cyffredinol i sicrhau einioes yr adeilad (ond nid gwaith cynnal a chadw rheolaidd).
  • adfer manylion pensaernïol coll ar y tu allan i’r adeilad, yn enwedig os oes archifau, megis hen luniau, ar gael sy’n dangos y manylion gwreiddiol.
  • ailddefnyddio arwynebedd llawr gwag neu segur, cyn belled â bod hyn yn cael ei gynnwys mewn cynllun uwchraddio ac atgyweirio cyffredinol.
  • gwella’r amgylchedd yn gysylltiedig â chynllun uwchraddio ac atgyweirio.
  • ffioedd proffesiynol.

Dim ond y canlynol all wneud cais:

  • Rhydd-ddeiliad yr eiddo.
  • Daliwr prydles sydd â phrydles atgyweirio lawn a budd heb ei ddarfod yn yr eiddo o ddeng mlynedd o leiaf o’r dyddiad y telir y grant.

Os oes gennych ddiddordeb neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Thîm y Prosiect MTT gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.  Os yw eich cais yn gymwys, bydd cyfarfod rhagarweiniol yn cael ei drefnu rhyngoch chi ac aelod o Dîm y Prosiect MTT i drafod cymhwyster a maint y gwaith ac i esbonio’r broses o wneud cais am grant.

Rheolwr y Prosiect MTT: 01978 292484
Swyddog Grantiau Cefn: 01978 315594

Os yw eich cais yn gymwys, bydd cyfarfod rhagarweiniol yn cael ei drefnu i drafod cymhwyster a maint y gwaith ac i esbonio’r broses o wneud cais am grant.

Gwybodaeth Bellach

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Cadwyn Clwyd – Sgiliau Adeiladu Traddodiadol

Gwadiad: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig