Rhaglen Cefnogi Busnes

Wyddoch chi fod tystiolaeth gref yn dangos bod busnes newydd sy’n ceisio cefnogaeth ac arweiniad yn llawer mwy tebygol o lwyddo yn y tymor hir? Gyda hyn mewn golwg aethom ati i ddatblygu ein rhaglen cefnogi busnes dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ein rhaglen cefnogi yn darparu’r cyngor, yr wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau, cynnal a thyfu busnes.

I gadw pethau mor syml â phosib rydym wedi rhannu’r rhaglen yn fodiwlau, pob un gyda’i nodau eglur ei hun, a gynlluniwyd i’w cyflwyno i grwpiau bach gan hyfforddwr neu gynghorydd. A thrwy weithdai a sesiynau un wrth un bydd eich cynghorydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich cynllun busnes eich hun.

Mae’r holl fodiwlau yn rhad ac am ddim, yn agored i unrhyw un sy’n meddwl am, neu sy’n bwriadu dechrau eu busnes eu hunain, ac maent yn addas ar gyfer POB math o syniadau busnes. I gael gwybod am weithdai sydd ar ddod ac i archebu lle, ffoniwch Hilary Neil-Williams ar 01978 366366.

Modiwl Un – Sut i ddechrau eich busnes

Mae’r seminar yma yn edrych ar fanteision ac anfanteision hunangyflogaeth ac yn adnabod pam bod rhai busnesau yn methu. Bydd y sesiwn yma yn eich helpu i ystyried eich cymhelliant dros ddechrau busnes, eich rhinweddau personol a’ch sgiliau busnes. Byddwch hefyd yn ennill dealltwriaeth o gynllunio busnes, y goblygiadau cyfreithiol ddaw gyda dechrau busnes a pha gefnogaeth sydd ar gael a sut i gael mynediad iddi.

Modiwl Dau – Sut i ymchwilio’ch marchnad

Mae’r gweithdy yma’n darparu cyflwyniad i’r broses farchnata gan edrych ar sut i ddatblygu strategaethau marchnata. Fe gewch ddealltwriaeth o ymchwil marchnata a pham y gall ymchwil marchnata da ddarparu sail gadarn ar gyfer datblygu eich strategaeth marchnata. Bydd y sesiwn yma hefyd yn cynnig arweiniad ar ba wybodaeth sydd ei hangen arnoch o ran eich cwsmeriaid, eich cystadleuwyr, maint y farchnad a thueddiadau’r farchnad.

Modiwl Tri – Sut i farchnata eich busnes

Bydd y gweithdy yma yn eich helpu i ddeall offer a thechnegau marchnata drwy eich arwain drwy’r camau o osod nodau marchnata a phenderfynu ar strategaeth farchnata.

Modiwl Pedwar – Sut i reoli eich busnes

Mae’r gweithdy yma yn darparu gwybodaeth allweddol ar weithrediadau busnes gan gynnwys yr adnoddau sydd eu hangen, systemau a gweithdrefnau, cynhyrchu, iechyd a diogelwch ac ansawdd. Mae’r gweithdy yma hefyd yn cynnig arweiniad ar feysydd eraill megis manteision ac anfanteision gweithio o’r cartref a materion amgylcheddol.

Modiwl Pump – Sut i brisio’ch cynnyrch neu wasanaeth

Mae’r gweithdy yma yn darparu dealltwriaeth o’r broses brisio ac yn helpu i adnabod y gwahanol fathau o gostau busnes, h.y. costau sefydlog, uniongyrchol a chyfalaf. Mae’r sesiwn yma hefyd yn egluro’r cyswllt rhwng costio a phrisio sydd wedi eu seilio ar ymchwil da a phroffidioldeb. Byddwch hefyd yn ennill dealltwriaeth o bwysigrwydd ymchwilio’ch costau yn drwyadl er mwyn iddynt fod yn sail i’ch rhagamcaniadau ariannol.

Modiwl Chwech – Sut i reoli eich cyllid busnes

Bydd y gweithdy yma yn eich arwain drwy’r broses o baratoi a dadansoddi datganiadau ariannol, gan ddarparu gwybodaeth ar sut i baratoi rhagolygon llif arian, cyfrifon elw a cholled a mantolenni. Mae’r gweithdy yn arddangos sut y gall deall a defnyddio'r offer yma eich cynorthwyo i reoli eich cyllid busnes.

Modiwl Saith – Sut i gadw rheolaeth ar eich busnes

Mae’r gweithdy yma’n tynnu sylw at bwysigrwydd cadw cyfrifon ac yn cynnig arweiniad ar sut i sefydlu system cadw cyfrifon. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth allweddol ar Hunanasesu i ddibenion treth, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, TAW, eich rhwymedigaethau dan y cynllun Talu Wrth Ennill a phwyntiau i’w hystyried wrth ddefnyddio cyfrifydd wrth sefydlu a rhedeg busnes.

Cefnogwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwybodaeth gyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Asedau a Datblygu Economaidd
3A Twr Rhydfudr
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
Wrecsam
LL13 9XT

Ffôn: 01978 667000
Ebost: business@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig