Mae datblygiad Dôl yr Eryrod yng nghanol tref Wrecsam yn un o nifer o brosiectau adfywio diweddar sydd wedi trawsffurfio Wrecsam i fod yn brif dref siopa ranbarthol yng ngogledd Cymru.
Mae datblygiad Dôl yr Eryrod yng nghanol tref Wrecsam yn un o nifer o brosiectau adfywio diweddar sydd wedi trawsffurfio Wrecsam i fod yn brif dref siopa ranbarthol yng ngogledd Cymru.
Dechreuodd gwaith ar y safle ym mis Mai 2006 a disgwylir iddo fod yn barod ym mis Medi 2008. Bydd yr estyniad hwn i ganol y dref yn cynnwys defnydd cymysg gyda chyfuniad o unedau hamdden, siopa a phreswyl o ansawdd uchel yn ogystal â dros 1,000 o leoedd parcio. Bydd y cynnig siopa yn dod â Debenhams a H&M i Wrecsam am y tro cyntaf yn ogystal â Marks & Spencer a Next mwy o faint. Bydd y cyfleusterau adloniant yn cynnwys canolfan fowlio deg 24 lôn a sinema 8 sgrin newydd sbon.
Mae'r datblygiad wedi gorfod goresgyn nifer o heriau peirianyddol gan gynnwys datgymalu trosffordd, aildrefnu priffyrdd a symud sawl milltir o geblau BT. Ariennir y prosiect yn gyfan gwbl gan gyllid preifat ac mae'n enghraifft ardderchog o strategaeth Datblygiad Economaidd yr Awdurdod Lleol i wneud Wrecsam yn fan deniadol i gwmnïau a datblygwyr i fuddsoddi ynddo. Bydd hyn yn arwain at wella ansawdd yr amgylchedd lleol i breswylwyr ac ymwelwyr.
Ar ôl gorffen, bydd datblygiad Dôl yr Eryrod yn gosod Wrecsam ar y rhestr o'r 100 man siopa gorau yn y DU. Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch ag Isobel Watson ar 01978 292457.