Y Sir Masnach Deg gyntaf yng Nghymru!
Golyga Masnach Deg.
Mae llawer o gynhyrchwyr yn derbyn llai am eu cynnyrch na'r gost i dyfu'r cnydau. Mae hyn yn eu gadael mewn tlodi. Masnach Deg = Amodau Teg . Mae hyn yn codi pobl allan o dlodi.
Mae'r nwyddau sy'n dangos nod FAIRTRADE yn cynnwys coffi, te, coco, siocled, siwgr, bisgedi, cacenni, sudd ffrwyth, gwin, blodau, crefftau, dillad a pheli pêl-droed!
Cynghrair Masnach Deg WrecsamDyma'r hyn y mae llawer o bobl ledled Wrecsam wedi bod yn gweithio tuag ato. Ym mis Chwefror 2003 lansiwyd Cynghrair Masnach Deg Wrecsam yn ffurfiol gan enwogion cyhoeddus, gwleidyddion, elusennau, undebau sefydliadau addysgol, eglwysi ac eraill mewn seremoni yn NEWI. Dirprwy Faer y dref ar y pryd sef y Cyng Aled Roberts oedd y cyntaf i arwyddo'r datganiad masnach deg ar ran Cyngor Wrecsam. Erbyn hyn mae gan y gynghrair dros 30 o grwpiau neu enwogion yn aelodau.
Ar 16 Gorffennaf 2003 Wrecsam oedd y Fwrdeistref Sirol Masnach Deg gyntaf yng Nghymru.
Gweithiodd Cynghrair Masnach Deg Wrecsam yn galed i sicrhau bod Wrecsam yn cydymffurfio â'r meini prawf i ennill y statws hwn gan y Sefydliad Masnach Deg:
Dim ond y dechrau oedd bodloni'r meini prawf hyn, mae'r gynghrair yn bwriadu dwysáu a datblygu'r ymwybyddiaeth a'r ymroddiad tuag at fasnach deg o fewn y Fwrdeistref Sirol.

AM Dr John Marek, AM Eleanor Burnham, Cyng. Aled Roberts, Y Maer Cyng. Michael Edwards a MP Ian Lucas
Mae ymdrechion clymblaid Masnach Deg Wrecsam wedi sicrhau mai Cymru ywr genedl Fasnach Deg gyntaf, a arweiniodd at y dathliadau canlynol ym mis Mehefin 2008.

Maer Wrecsam y Cynghorydd David Griffiths ai wraig y Faeres Denise Griffiths yn torrir gacen i ddathlur ffaith mai Cymru ywr genedl Fasnach Deg gyntaf.

I ddathlur ffaith bod Cymru wedi dod yn genedl Fasnach Deg, penderfynodd Masnach Deg Cymru gynhyrchu baner a fydd yn ymweld phob sir yng Nghymru erbyn Dydd Gwyl Dewi 2009. Dengys y llun isod y faner yn chwifio yn Sgwr y Frenhines yn ystod ei chyfnod yn Wrecsam.

Teithiodd Maer Wrecsam y Cynghorydd David Griffiths i Neuadd Sir y Fflint, yr Wyddgrug gyda chynrychiolwyr o Glymblaid Masnach Deg Tref a Sir Wrecsam a swyddogion o adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gyflwynor faner i gydweithwyr o Sir y Fflint. Fei gwelir yn y llun uchod gyda Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Quentin Dodd a phlant ysgol lleol yn y seremoni gyflwyno.
Fel rhan o bythefnos Masnach Deg 2009, roedd Clymblaid Masnach Deg Tref a Sir Wrecsam wrth law yn un o’r dawnsfeydd te wythnosol a gynhelir yn Neuadd Goffa Wrecsam i wneud Cwpanau o De a Choffi Masnach Deg i’r danswyr a rhoi Cacennau Masnach Deg a roddwyd drwy garedigrwydd y cwmni cydweithredol. Bu Maer Wrecsam y Cynghorydd David Griffiths wrth law hefyd ac esboniodd i’r danswyr beth yn union mae Masnach Deg yn ei olygu a sut mae’n helpu’r ffermwyr mewn gwledydd tlawd.

Mae’r llun uchod yn ei ddangos yn tywallt cwpaned o de Masnach Deg i Is-gadeirydd y Glymblaid Chris Pilsbury.
Yn ystod Pythefnos Masnach Deg, ymwelodd y ffermwr coffi o Golombia Jose Manuel â’r DU, gan gyfarfod â llawer o bobl mewn sawl dinas i hyrwyddo Masnach Deg ac esbonio sut mae wedi bod o fudd mawr iddo ef a’i deulu. Daeth ar ei siwrnai yng nghwmni Mateo Correa o Colcafe a dyna’r cwmni sy’n gwneud y ddiod o’r ffa coffi. Trefnodd y cwmni cydweithredol Fore Coffi Masnach Deg ym Mhrifysgol Glyndŵr lle roedd Jose a Mateo’n fwy na pharod i ateb cwestiynau’r gynulleidfa mewn perthynas â Masnach Deg a ffermio Coffi yn gyffredinol.

Yn y llun uchod mae disgyblion Ysgol Uwchradd Rhosnesni gyda Dirprwy Faer y Cynghorydd Arwel Jones, Jose Manuel a Mateo Correa.
Ym mis Gorffennaf 2004 cyhoeddwyd Canllaw Masnach Deg Wrecsam a noddwyd gan y Co-op sy'n rhoi gwybodaeth am yr hyn a olyga gan fasnach deg a lle i brynu nwyddau masnach deg yn ardal Wrecsam.
Os hoffech weld eich busnes wedi ei restru yng Nghanllaw Masnach Deg Wrecsam fel cyflenwr nwyddau Masnach Deg, cysylltwch â Chynghrair Masnach Deg Wrecsam.
Os byddwch am gael gwybod mwy, neu am ymuno â'r gynghrair cysylltwch â Chynghrair Masnach Deg Wrecsam yn:
37 Ffordd Melin y Brenin
Wrecsam
LL13 8NH
Ffôn: 01978 262588
Ebost: cpilsbury@lineone.net
Gellir cael gwybodaeth bellach gan y wefan Masnach Deg: www.fairtrade.org.uk.