Ydych chi'n grŵp cymunedol sydd â syniad da?
Mae grantiau o £1,000 i £25,000 bellach ar gael i gynorthwyo cymunedau i ddathlu, cadw a diogelu ein treftadaeth leol.
Ar hyn o bryd mae’r amcan yn cael ei ddiwallu drwy ddarparu 12 prosiect adfywio amrywiol yn rhannol fel rhan o Gynllun Busnes 2 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013.
Sefydlwyd cynllun Grant Treftadaeth a Diwylliant Gwledig fel bod cymunedau mewn ardaloedd cymwys o Wrecsam yn gallu gwneud cais am gymorth grant ar gyfer gynlluniau sy'n cefnogi'r canlynol:
- Gweithgareddau diwylliannol dwyieithog;
- Adfer a dehongli henebion ar raddfa fach;
- Dathlu nodweddion treftadaeth
Gogledd Gororau Cymru sy'n gweinyddu Grant Treftadaeth a Diwylliant Gwledig, gyda'r nod o ddatblygu ac adfywio bywiogrwydd amgylcheddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y cymunedau gwledig yn Wrecsam. Derbyniodd y Grant Treftadaeth a Diwylliant gyllid dan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â Swyddog y Grant Treftadaeth a Diwylliant Cymunedol ar 01978 298381 neu e-bostio heritagegrantsnmc@wrexham.gov.uk.
Canllawiau Gwneud Cais
Canllawiau Gwneud Cais - Fersiwn PDF 219Kb![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Am ragor o wybodaeth am Ogledd Gororau Cymru ewch i'n gwefan:
Ariennir drwy:








