Gogledd Gororau Cymru

Mae Gogledd Gororau Cymru yn sefydliad anghorfforedig a fe’i cydnabyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel y corff sy’n darparu rhaglenni adfywio gwledig yn Wrecsam.

Ei amcan yn yr hirdymor yw gwella ansawdd bywyd pobl leol drwy ddarparu cyfleoedd economaidd, annog y gymuned i wneud penderfyniadau a chymryd rhan, a gwella ansawdd ac amrywiaeth yr amgylchedd trefol a gwledig.

Ar hyn o bryd mae’r amcan yn cael ei ddiwallu drwy ddarparu 12 prosiect adfywio amrywiol yn rhannol fel rhan o Gynllun Busnes 2 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013.

Gweithredir y rhaglen bresennol hyd fis Rhagfyr 2013 a daw’r rhaglen â gwerth £3.7m o gyllid yn ei sgil.  Mae hyn yn cynnwys grant o £2.5m drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) Llywodraeth Cymru ac mae gweddill yr arian yn arian cyfatebol ac amser gwirfoddolwyr cyrff a sefydliadau amrywiol.

Am ragor o wybodaeth am Ogledd Gororau Cymru ewch i'n gwefan:

Ariennir drwy:

Wrexham County Borough Council, LEADER+, Welsh Assembly Government and European Union LEADER+

yn ôl i'r brig