Tir ac Eiddo

Mae gan Wrecsam ddewis rhagorol o eiddo masnachol yn cynnwys unedau diwydiannol, swyddfeydd, tir a manwerthu sy’n amrywiol eu maint a’u hansawdd, felly mae rhywbeth i weddu i bob math o fusnes. Mae’r cyfraddau defnydd yn uchel fel arfer, ond mae cwmnïau yn symud o le i le yn yr ardal ac mae’r sefyllfa’n newid yn barhaus. Mae gan yr awdurdod lleol ei hun bortffolio eiddo helaeth yn cynnwys 350 o unedau, sy’n cyfateb yn fras i 73,000 m sg o unedau diwydiannol a swyddfeydd.

Ystadau Diwydiannol

Mae yma 25 o wahanol ystadau diwydiannol a pharciau busnes, ac Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yw’r mwyaf ohonynt, ac yn wir y mwyaf yng Nghymru, ac ymysg y 10 uchaf, o ran ei maint, yn y DU. Mae’r ystadau llai, ar y cyfan, wedi cael eu datblygu I’r eithaf ond mae yno ddewis da o dir datblygu ar gael ledled y fwrdeistref a safleoedd maes glas a thir llwyd sy’n amrywio o ran eu maint o 100 erw hyd at ffracsiynau o erw.

Mae gan nifer o ddatblygwyr dir yn Wrecsam ac meant yn cynnig gwasanaeth dylunio ac adeiladu ar gyfer eiddo ar bridles neu rydd-ddaliol. Gan fod y rhan fwyaf o’r cwmnïau hyn yn ymwneud â rhaglenni datblygu hapfasnachol, mae’n gymharol hawdd iddynt addasu’r cynlluniau syd ganddynt yn barod i fodloni anghenion penodol unrhyw gleient newydd. Bydd hun yn cyflymu’r proses gryn dipyn ac yn golygu y bydd dylunio ac adeiladu yn ddewis dichonol, hyd yn oed i’r cwmnïau hynny sy’n gorfod cadw at raddfa amser gyfyng.

Dod o Hyd i Eiddo

Mae Adran Datblygu Economaidd Wrecsam yn cynnal cronfa ddata o’r eiddo a’r tir diwydiannol sydd ar gael.

Mae’r wybodaeth isod yn cynnwys manylion eiddo gwag yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat sydd ar gael ar hyn o bryd.

Eiddo ar gael yn ôl lleoliad

Symudwch eich llygoden dros yr map i weld y manylion gwybodaeth.

De Wrecsam - fformat PDF De Wrecsam - fformat PDF Canol Tref Wrecsam - fformat PDF Gogledd Wrecsam - fformat PDF Canol Wrecsam - fformat PDF

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Eiddo ar gael yn ôl math

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01978 667000
Ebost: property@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig

Cysylltiadau Defnyddiol