|
   Cynhaliodd Wrecsam ddiwrnod o ddathliadau ar 1af Mawrth i nodi Dydd Gŵyl Dewi 2008. Roedd hyd at 40 stondin yn gwerthu cynnyrch a chrefftau Cymreig: adrodd stori o chwedlau Cymreig ar gyfer plant; gweithdai crefft yn cynnwys gwneuthurwr cyryglau; adloniant ar gyfer plant, peintio wynebau a pherfformiadau cerddorol yn cynnwys 2 gôr ac unawdydd ar y delyn yn darparu adloniant y dydd. Yn ystod y digwyddiad hefyd cafwyd rownd derfynol cystadleuaeth Penselsigen Wrecsam. Yng ngofal honno roedd y beirniad selsig proffesiynol Dennis Elliott gyda chymorth y pencogydd cynnyrch Cymreig, Colin Pressdee. Hefyd cafwyd dau arddangosiad coginio gan Colin yn ystod y dydd gan ddefnyddio cynnyrch lleol
Roedd y gystadleuaeth selsig yn ddigwyddiad cyffrous gyda 9 o gigyddion annibynnol Wrecsam o’r safon uchaf am brofi eu sgiliau. Cyhoeddwyd yr enillydd, Cigyddion R.S.Williams, a gynigiodd gyda’u selsig porc Cymreig a chenhinen syfi, gan Faer Wrecsam am 1.30pm.
Dywedodd y cigydd, Jeremy Williams, “Rydym wrth ein boddau ar ôl ennill. Trefnwyd y gystadleuaeth yn dda a llawer yn bresennol. Mae’n wych ar gyfer masnach yn Wrecsam a hir y parhaed”.
Nawr mae gan yr enillydd yr hawl i gystadlu yn nigwyddiad Prif Bencampwr y Pencampwyr yn Llundain ym mis Hydref.
Dyfarnwyd y canlynol i’r ymgeiswyr yn y gystadleuaeth:
Enillwyr y Cwpanau
- Prif Bencampwr – Selsig Porc Cymreig a Chenhinen Syfi – R.S.Williams a’i Fab 24 Stryt y Banc, Wrecsam - 01978 364272 (Tystysgrif Gwobr Aur)
- Is-bencampwr – Selsig Porc Traddodiadol - Cigyddion D a J Thomas
The Butchers Shop, Ffordd y Gardden, Rhos, Wrecsam - 01978 840376 (Tystysgrif Gwobr Aur)
- Clod Uchel – Selsig Porc a Chennin - Pen-Y-Lan Pork Ltd
Fflat 8, Plas Pickhilll, Pickhill, Cross Lanes, Wrecsam - 01978 781365 (Tystysgrif Gwobr Aur)
Gwobrau Tystysgrif
- Gwobr Aur – Cig Oen Cymreig, Cennin a Bricyll - J.T Vernon Fresh Food Hall The Cross, Holt, Wrecsam - 01829 270247
- Gwobr Aur – Selsig Traddodiadol - Lewis' Farm Shop
Brook Cottage, Eutun, Wrecsam - 01978 780852
- Gwobr Aur – Cig Oen Cymreig Melys - M.E.Evans
4-6 Marchnad y Cigyddion, Stryt Fawr, Wrecsam - 01978 353642
- Gwobr Arian – Porc Cymreig Traddodiadol - Hugh John Jones
19/20 Marchnad y Cigyddion, Stryt Henblas, Wrecsam - 01978 266978
- Gwobr Arian – Porc Traddodiadol - D.L.Platt
14 Marchnad y Cigyddion, Stryt Fawr, Wrecsam - 01978 262239
- Gwobr Arian – Porc a Danhadlen - Orchard Pigs
Bryn Coch, Ffordd Rhuthun, Bwlchgwyn, Wrecsam - 01978 753778
Am fwy o fanylion ynglŷn â’r gystadleuaeth cysylltwch â’r Adran Datblygiad Economaidd ar 01978 292489, neu drwy
e-bost at economicdevelopment@wrexham.gov.uk
|