|
Mae tair o farchnadoedd dan do yng nghanol tref Wrecsam ac maent i gyd o fewn cyrraedd rhwydd i ddatblygiad Sgwâr Henblas.
Mae Marchnad y Bobl wedi'i lleoli o fewn yr ardal i gerddwyr ar Stryt Caer ac mae’n ffurfio rhan o'r maes parcio aml-lawr. Mae'r adeilad modern hwn yn darparu 55 o stondinau marchnad, yn ogystal â 15 o unedau manwerthu ar flaen Stryt Caer ac o fewn mynedfa marchnadfa'r de.
Mae'r Farchnad Gyffredinol yn yr ardal i gerddwyr ar Stryt Caer hefyd, ac mae ei phrif fynedfa ar Stryt Henblas. Mae’r adeilad rhestredig gradd II hwn yn cynnwys 16 o stondinau ac ar ei blaen mae 5 o unedau manwerthu cloadwy.
Mae Marchnad y Cigyddion yn yr ardal i gerddwyr ar Stryt Henblas a'r Stryt Fawr. Mae hwn yn adeilad rhestredig gradd II hefyd sy'n cynnwys 36 o stondinau a 3 uned fanwerthu ar flaen y Stryt Fawr.
Mae'r Awdurdod hefyd yn rheoli unedau manwerthu amrywiol yn ystadau tai niferus Wrecsam. Ceir ystod eang ac amrywiol o adeiladau siopau, rhai yn cynnwys llety preswylio yn gysylltiedig, ym Mharc Caia, Brynteg, Coedpoeth a Little Acton, i enwi dim ond rhai. Caiff y mwyafrif o'r adeiladau hyn eu prydlesu ar delerau 6 – 21 mlynedd ac fe'u cedwir gan yr Awdurdod i ddarparu ystod eang o wasanaethau i'w denantiaid niferus a phreswylwyr lleol.
Cysylltiadau i Cwestiynau Cyffredin am Marchnadoedd
|