Prosiect datblygu hirdymor yw Porth y Gorllewin sy’n cael ei hybu gan y
Cyngor, mewn partneriaeth â chyrff eraill.
Ei amcan hirdymor yw ymestyn Parc Technoleg Wrecsam i’w drydydd cyfnod, gan ganolbwyntio ar fusnesau sy’n gallu rhoi hwb i economi Wrecsam a’i wneud yn fwy cynaliadwy, er enghraifft, trwy greu swyddi newydd ac ar gyflog gwell. Mae’n debygol y bydd hefyd yn cyflenwi nifer sylweddol o gartrefi newydd o safon.
Yn y tymor byrrach, mae’n bwriadu gwella nifer o ffyrdd a llwybrau troed, sy’n cael eu galw’n ‘waith isadeiledd sylfaenol’. Mae’r rhain yn cynnwys creu cyffordd newydd, llwybr troed a lôn feicio ar Ffordd Croesnewydd; cyffordd newydd ar Ffordd Rhuthun yn y gorllewin; a ffordd newydd yn cysylltu’r ddwy gyffordd newydd trwy safle Porth y Gorllewin; bydd hyn yn agor y safle cyfan i’w ddatblygu.

Y bwriad yw i Borth y Gorllewin ddod yn gynllun blaenllaw. Yr agwedd fwyaf arloesol arno fydd ei ddatblygu fel parc busnes ‘gwyrdd’ neu ‘eco’ yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd gyda chymwysterau amgylcheddol uchel. Bydd y canolbwynt hwn yn berthnasol i’r safle cyfan o ddechrau dylunio i adeiladu, i’w ddefnydd terfynol gan gynnwys y ffyrdd, adeiladau, draenio ac, efallai, hyd yn oed y prif gyflenwad trydan. Yn yr amseroedd economaidd anodd hyn, mae hon yn her sylweddol ond mae’r Cyngor yn benderfynol o fod yn esiampl yn y maes hwn er mwyn cyfrannu tuag at liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bu’r prosiect ar y gweill ers nifer o flynyddoedd. Hyd yma, canolbwyntiodd gwaith ar y meysydd canlynol.
Ym mlynyddoedd cynnar y prosiect, cyn adeiladu’r cylchoedd preswyl, cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd gyda busnesau lleol i ddweud wrthynt am y prosiect a rhoi sylw i unrhyw bryderon a materion oedd yn codi, yn benodol mewn perthynas â’r gwaith isadeiledd sylfaenol; bryd hynny, cyfrifoldeb Redrow Homes oedd y rhain.
Mynegwyd sawl barn, a rhai pryderon, yn yr achlysuron hyn yn enwedig ynghylch effaith gwaith adeiladu ar reoli traffig ar ac o gwmpas y safle. Nodwyd y rhain ac maent wedi ffurfio rhan o ystyriaethau’r Cyngor wrth ddylunio’r cynllun.
Ar yr adeg honno, neilltuodd y Cyngor Cynghorwr Busnes penodedig, Mike Bather, i Barc Technoleg Wrecsam hefyd. Mae Mike yn dal i weithredu yn y swyddogaeth hon i gefnogi busnesau a gall busnesau lleol gysylltu ag ef ar.
Fel darn sylweddol o astudiaeth dechnegol, mae amrywiaeth eang o randdeiliaid proffesiynol wedi bod yn rhan o’r gwaith uwchgynllunio. Cawsant eu dewis ar sail eu gallu i ddylanwadu ar ystyriaethau technegol yr Uwchgynllun, e.e. y Comisiwn Dylunio, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Cynhwyswyd Aelodau Lleol hefyd yn ogystal â sefydliadau lleol fel Fforwm Cynaliadwyedd Wrecsam, Coleg Iâl, Prifysgol Glyndwr ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Cyfranogodd Sharp Manufacturing yn Llai hefyd; Sharp yw cydosodydd paneli ffotofoltaidd (modiwlau celloedd solar) mwyaf Ewrop a theimlwyd y gallent ddylanwadu ar drafodaethau ar sut i ddatblygu’r safle gydag ynni adnewyddadwy.
Cwblhawyd Uwchgynllun Porth y Gorllewin ym mis Hydref 2007. Ei nod yw rhoi cyfeiriad enghreifftiol i ddatblygiad y safle yn y dyfodol ac mae o natur hyrwyddol. Os ydych eisiau gweld copi o’r Uwchgynllun, cofiwch gysylltu â ni.
Erbyn hyn mae’r prosiect yn dechrau ar gyfnod newydd o gyfranogiad y gymuned a rhanddeiliaid wrth i waith ddechrau ar y safle
Mae tîm y prosiect yn awyddus i gael y gymuned leol i gymryd rhan, yn enwedig ysgolion lleol. Os oes gennych unrhyw syniadau ar sut i wneud hyn, cofiwch sôn wrthym.
Fel gyda llawer o brosiectau adfywio ac adeiladu cyfalaf ar hyd a lled y wlad, mae’r cynllun wedi dioddef gyda’r dirwasgiad: cyllid yw’r anhawster mwyaf. Felly, mae amserlenni wedi gorfod llithro a bu peth oedi ar y prosiect.
Erbyn hyn cafwyd cyllid newydd ar gyfer gwneud y gwelliannau i draffig a cherddwyr ar Gyffordd Ffordd Croesnewydd – ger y bont ffordd bresennol dros yr hen reilffordd – fel cyfnod cyntaf y gwaith isadeiledd sylfaenol.
Bydd Cyffordd Ffordd Croesnewydd yn disodli’r bont ffordd bresennol gan gyffordd pedair coes ar y gwastad fydd yn ymgorffori llwybr troed a lôn feicio newydd ac yn creu dolen barhaol newydd i faes parcio’r ysbyty.

Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gyffordd hon oherwydd bod modd ei chwblhau ochr yn ochr â thir y briffordd bresennol. Felly, gallai gwaith adeiladu ddechrau yn chwarter cyntaf 2011.
Bydd yn cymryd 20 wythnos i’w hadeiladu. Fodd bynnag, mae’r gwaith hwn yn dibynnu ar fod cyllid ar gael a beth yw’r gost ar adeg tendro. Tra bo’r gyffordd newydd yn cael ei hadeiladu, bydd y briffordd bresennol yn aros ar agor.
Bydd hyn yn lleihau’r effaith ar y rhwydwaith priffyrdd. Bydd rhagor o wybodaeth fanwl ar y gwaith a’i amserlen yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Os bydd y costau’n fwy na’r gyllideb gyfredol, yna’r dewis fydd symud ymlaen gyda llwybr troed a lôn feicio ar wahân yn unig, gan gysylltu cylchoedd preswyl Ffordd Rhuthun gyda’r Parc Technoleg a’r ysbyty.
Caiff hyn ei gwblhau’n bennaf ar dir preswyl y Cyngor ei hun, i’r dwyrain o Ffordd Croesnewydd.
Y dyddiad cynharaf y gallai gwaith adeiladu ddechrau yma yw mis Awst 2011, oherwydd y bydd angen caniatâd cynllunio.
Mae’r Cyngor yn gweithio tuag at Ddyfarniad Rhagorol CEE QUAL am ddylunio ac adeiladu Cyffordd Ffordd Croesnewydd.
CEEQUAL yw ‘Cynllun Asesiad a Dyfarniadau Ansawdd Amgylcheddol Peirianneg Sifil’.
Trwy hyrwyddo ‘arferion gorau’ amgylcheddol a chymdeithasol a mesur perfformiad yn y meysydd hyn, mae CEEQUAL yn offeryn sy’n gallu helpu’n sylweddol yr ymgyrch dros ddatblygu ac adeiladu mwy cynaliadwy.
Er mwyn cyllido a chyflawni gweddill y gwaith isadeiledd sylfaenol, y ffyrdd eilaidd, efallai’r gwaith CC HP a’r Parc Technoleg ei hun, bydd y Cyngor yn chwilio am bartner yn y sector preifat.
Cyn gwneud hyn, bydd angen iddo gael caniatâd cynllunio ar gyfer cyffordd newydd Ffordd Rhuthun a’r ffordd ganol.
Mae’n gobeithio cyflawni hyn erbyn mis Chwefror 2011.
Yn 2011 bydd un o achlysuron diwylliannol pwysicaf Cymru - yr Eisteddfod Genedlaethol - yn dod i Wrecsam am y tro cyntaf ers 1977.
Bydd yn cael ei chynnal ar y safle i’r de o Borth y Gorllewin rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2011. Nid oes unrhyw fwriad i ddefnyddio safle Porth y Gorllewin at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â’r Eisteddfod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y prosiect, neu os ydych eisiau rhannu unrhyw syniadau efo ni, byddem yn hoffi clywed oddi wrthych.
Ffôn: Rheolwr y Prosiect Adfywio - 01978 292453 neu Swyddog Prosiect Adfywio - 01978 292444.
Ebost: economicdevelopment@wrexham.gov.uk
Taflen Hysbysu Rhif 1 - Hydref 2010 - fformat PDF 1Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.