Croeso i 11eg rhifyn Cyswllt, cylchgrawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n ymddangos dwywaith y flwyddyn ar gyfer pobl sy'n byw a gweithio yn y fwrdeistref sirol.
Mae'r haf wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae'n amser da i fwynhau awyr agored y fwrdeistref sirol a'r atyniadau sydd ar garreg ein drws. Ewch i'n darn Beth Sy 'Mlaen ar dudalen 16 am fanylion o ystod gyfan o ddigwyddiadau i'r teulu cyfan.
Cawn gipolwg ar ddatblygiadau yn y fwrdesitref sirol yn y misoedd diwethaf hefyd a'r rhai sydd i ddod, gan gynnwys y cynlluniau cyffrous i drawsnewid hen safle Dôl Eryrod i ddatblygiad manwerthu, hamdden a thai cymysg. Yn y rhifyn hwn, amlygwn yr esiampl dda y mae disgyblion o Ysgol Alexandra yn Wrecsam yn ei dangos pan ddaw i fwyta'n iach. Ar yr un pwnc o fyw'n iach, edrychwch ar y daflen am lwybrau beicio ledled y fwrdesitref sirol i'ch helpu chi i wneud y mwyaf o dywydd yr haf a chadw'n heini ar yr un adeg.
Mae darn arall i chi ei gadw hefyd am ein perfformiad fel awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - Crynodeb o'n Cynllun Gwella. Mae'n gosod allan y meysydd lle teimlwn fod modd i ni wella a sut fwriadwn wneud hyn.
Gobeithiwn y bydd Cyswllt o ddefnydd i chi. Os ydych chi’n gwybod am rywun sydd heb dderbyn eu copi neu os oes gennych unrhyw sylwadau am Cyswllt, ysgrifennwch at:
Yr Uned Gyfathrebiadau Gorfforedig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1WF
Ffoniwch: 01978 292274
E-bost: connect@wrexham.gov.uk
Cyswllt - Haf 2005
Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:
Cyswllt - Haf 2005 - fersiwn PDF 8.8Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Cyswllt i |
|
| Cyswllt | |
| Cymuned a Bywi | |