Cyswllt - Gorffennaf 2004

Croeso i 8fed rhifyn Cyswllt, cylchgrawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer pobl sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam. Cyhoeddir Cyswllt ddwywaith y flwyddyn i roi’r newyddion diweddaraf i chi am weithgareddau’r Cyngor, ac mae’n llawn gwybodaeth am ein gwasanaethau. Efallai i chi sylwi bod Cyswllt wedi cael newid ei wedd, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ei ddarllen ac yn parhau i’w gael yn ddefnyddiol.

Mae’r haf wedi cyrraedd ac mae Cyswllt yn amlygu’r amrywiol ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol i ddiddanu pobl o bob oedran. Rydym hefyd yn edrych at y dyfodol gyda manylion am datblygiadau newydd sydd ar ddod, gan gynnwys newidiadau gwerth miliynau o bunnoedd ar safle Dôl yr Eryrod a gwesty pedair seren newydd. Byddwch hefyd yn gallu darllen am ein cynlluniau i gynyddu faint o sbwriel a ailgylchwn, gan gynnwys ymestyn ein cynllun Ailgylchu gyda Michael.

Gobeithiwn y bydd Cyswllt o ddefnydd i chi. Os ydych chi’n gwybod am rywun sydd heb dderbyn eu copi neu os oes gennych unrhyw sylwadau am Cyswllt, ysgrifennwch at:

Yr Uned Gyfathrebiadau Gorfforedig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1WF

Ffoniwch: 01978 292014
E-bost: connect@wrexham.gov.uk


Cyswllt - Gorffennaf 2004

Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:

Cyswllt - Gorffennaf 2004 Fersiwn PDF 557Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig