Cyswllt - Mawrth 2008

Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Cyswllt, cylchgrawn chwarterol Cyngor Wrecsam ar gyfer pobl sy’n byw a gweithio yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd ac felly yn y rhifyn hwn o Cyswllt mae’n meddyliau’n troi at ffyrdd tymhorol o wneud ein rhan ar gyfer yr amgylchedd, fel compostio eich gwastraff o’r ardd a’r gegin. 

Yn y cyfamser, mae’n siwr mai Harri Evans yw un o ddinasyddion gwyrdd ieuengaf Wrecsam sy’n gwneud ei ran i’r amglychedd trwy wisgo clytiau go iawn.

Yn y rhifyn hwn rydym hefyd yn edrych ar y newidiadau i’n polisi gosod tai er mwyn sicrhau ei fod yn deg i bawb sy’n gwneud cais ynogystal a newyddion gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam.

Ar gyfer ein darllenwyr iau rydym wedi cynnwys ychwanegiad newydd – Cyswllt i Blant.  Rydym yn gobeithio y bydd eich plant yn mwynhau’r ychwanegiad hwn ac rydym yn gobeithio ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.

Fel arfer, mae pob croeso i chi roi gwybod i ni beth yw eich barn am Cyswllt trwy gysylltu â Adran Gyfathrebu’r Cyngor trwy un o’r ffyrdd isod:

Ffôn: 01978 292274; neu

E-bost: connect@wrexham.gov.uk

Post: Cyswllt
Uned Gyfathrebiadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY

Cyhoeddir rhifyn nesaf Cyswllt ym mis Haf 2008.

Cyswllt - Mawrth 2008

Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:

Cyswllt - Mawrth 2008 - fersiwn PDF 801Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig