Croeso i'r rhifyn diweddaraf o Cyswllt, cylchgrawn a gyhoeddir bob tri mis gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref sirol.
Roeddem yn edrych ymlaen at haf hir a chynnes pan gafodd y rhifyn hwn ei argraffu, ond yn anffodus nid yw wedi cyrraedd eto – ond pan fydd yn cyrraedd (wrth lwc!) mae Cyswllt yn cynnig cyngor am sut i gadw’ch bwyd yn ddiogel rhag bacteria wrth gael barbiciw a beth i’w wneud am blâu’r haf, fel pryfed a chacwn.
Mae Strydoedd o Fri yn fenter newydd sy’n cael ei lansio ym mis Medi a fydd yn dod â llawer o’n gwasanaethau ‘strydlun’ at ei gilydd dan un faner ac yn helpu i leihau sbwriel ar ein strydoedd.
Mae’r Cyngor wedi bodoli ers 150 o flynyddoedd eleni ac rydym yn edrych yn ôl ar rai o’r digwyddiadau arwyddocaol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Unwaith eto rydym yn edrych ar ailgylchu ac wedi cynnwys rhai cwestiynau cyffredin a fydd yn eich helpu i sicrhau eich bod yn ailgylchu ac yn compostio cymaint â phosibl.
Mae’r rhifyn hwn hefyd yn edrych ar dai ac yn cynnwys detholiad o erthyglau sy’n cwmpasu popeth o dai fforddiadwy i ddiwedd y cynllun amnewid ffenestri
Gobeithiwn eich bod yn mwynhau darllen Cyswllt. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn amdano trwy gysylltu â’n Huned Gyfathrebiadau yn y ffyrdd canlynol:
Ffôn: 01978 292274
E-bost: connect@wrexham.gov.uk
Post: Cyswllt
Uned Gyfathrebiadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY
Cyhoeddir rhifyn nesaf Cyswllt ym mis hydref 2007.
Cyswllt - Haf 2007
Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:
Cyswllt - Haf 2007 - fersiwn PDF 2.8Mb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Cyswllt i |
|
| Cyswllt | |
| Newyddion | |
| Cymuned a Bywyd | |