Cyswllt - Rhagfyr 2006

Croeso i rifyn diweddaraf Cyswllt, cylchgrawn chwarterol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer pobl sy’n byw a gweithio yn y fwrdeistref sirol.

Mae rhifyn gaeaf Cyswllt – ein cylchgrawn i bobl sy’n byw a gweithio ym mwrdeistref sirol Wrecsam – ar gael nawr.

Mae’r cylchgrawn, sy’n cynnwys newyddion ar draws y Cyngor, yn cael ei gludo i holl gartrefi’r Fwrdeistref Sirol naill ai fel rhan o’ch papur newydd lleol am ddim neu drwy gludiad o ddrws i ddrws mewn ardaloedd lle nad yw papurau am ddim yn cael eu cludo.

Mae’r Cyngor yn cynhyrchu Cyswllt bob tri mis a gobeithiwn y bydd o ddefnydd ac yn llawn gwybodaeth ddiddorol i chi.

Yn y rhifyn hwn, edrychwn ar ystod eang o newyddion gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau Nadoligaidd yn Wrecsam, canllaw arbennig i bobl hŷn ar sut i gadw’ch hun yn iach, cynnes a diogel a chanllaw ailgylchu gwastraff y Nadolig.

Yng nghanol y cylchgrawn hwn, ceir Crynodeb o’n Cynllun Gwella, sy’n nodi ein cyflawniadau dros y 12 mis diwethaf a’n cynlluniau i dargedu ein blaenoriaethau yn y dyfodol.

Ac, yng nghanol y cylchgrawn, mae taflen yn rhoi crynodeb o’n Cynllun Gwella, sy’n gosod allan ein llwyddiannau yn y 12 mis diwethaf a’n cynlluniau i dargedu meysydd blaenoriaeth.

Yn y cyfamser, os ydych yn 60 oed neu hŷn ac yn ystyried dechrau cadw’n heini yn y Flwyddyn Newydd, beth am fanteisio ar y cynllun nofio am ddim.  Darllenwch yr erthygl ar dudalen 12 i gael mwy o wybodaeth.

Gobeithiwn eich bod yn mwynhau darllen Cyswllt.  Rhowch wybod i ni beth yw eich barn amdano trwy gysylltu â’n Huned Gyfathrebiadau yn y ffyrdd canlynol:

Ffôn: 01978 292274

E-bost: connect@wrexham.gov.uk

Post: Cyswllt
Uned Gyfathrebiadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1WF

Cyhoeddir rhifyn nesaf Cyswllt ym mis Mawrth 2007.


Cyswllt - Rhagfyr 2006

Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:

Cyswllt - Rhagfyr 2006 - fersiwn PDF 1.9Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig