Cyswllt - Rhagfyr 2007

Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Cyswllt, cylchgrawn chwarterol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer pobl sy’n byw a gweithio yn y fwrdeistref sirol.

Mae’r rhifyn helaeth hwn o Cyswllt yn cynnwys cyngor tymhorol ar sut i gael Nadolig gwyrdd, ynghyd â newyddion am ein hymgyrch Arhoswch-Oedwch-Meddyliwch i hybu presenoldeb mewn ysgolion.

Mae erthyglau eraill yn y cylchgrawn, sy’n mynd allan i breswylwyr ddechrau Rhagfyr, yn cynnwys darn am waith pwysig gofalwyr cartref, manylion am gasglu biniau adeg Nadolig ac adran beth sy’ ‘mlaen dros yr ŵyl.

Yn y cyfamser, yng nghanol y rhifyn hwn mi welwch Grynodeb o’n Cynllun Gwella, sy’n manylu ar sut y bu inni berfformio yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a sut yr ydym yn bwriadu gwella ein gwasanaethau eto i’r dyfodol. Hefyd mae ymgynghoriad ar ein cyllideb yng nghanol y cylchgrawn.

Hyderwn y mwynhewch ddarllen Cyswllt. Gadewch i ni wybod eich barn amdano trwy gysylltu â’n Huned Gyfathrebu trwy un o’r dulliau canlynol:

Ffôn: 01978 292274

E-bost: connect@wrexham.gov.uk

Post: Cyswllt
Uned Gyfathrebiadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY

Cyhoeddir rhifyn nesaf Cyswllt ym mis Mawrth 2008.


Cyswllt - Rhagfyr 2007

Mae'r llyfryn ar gael yn y ffurf canlynol:

Cyswllt - Rhagfyr 2007 - fersiwn PDF 2.6Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig