
Mae gemwaith Elle sydd wedi ei ysbrydoli gan lyfrau a’r gair ysgrifenedig yn cyfuno papur a thestun gyda metal gwerthfawr i greu cyfres o emwaith â ffont syml oesol teipiadur.
Darnau gwydr chwythiedig a ysbrydolwyd gan fywyd tanfor, gan ddal hanfod hylifedd a thryloywder bywyd y môr.
Mae Michelle yn ymgorffori cynnwys a defnyddioldeb gan ddefnyddio cymysgedd o dechnegau â llaw, mowld gwasgu a thechnegau taflu i greu cerameg cyffyrddol a defnyddiol. Ychwanegir at linellau’r arwyneb a’r testun gan ocsidau a chlai.
Arian enamlog trowasg a phowlenni copr a ysbrydolwyd gan ffurfiau naturiol. Mae Patricia’n defnyddio’r grefft o enamlo, gan ymgorffori’r dechneg cloisonné, i bwysleisio lliw a gwead, gan gynnwys arian neu weiar copr yn aml.
Crochenwaith caled ymarferol wedi’i bren-grasu, gan gadw’r broses crasu mewn cof wrth wneud y gwaith. Mae Wayne yn gwneud marciau yn y clai gyda’r bwriad o ddal y lludw o’r tân, ac oherwydd tymheredd cyson mae hyn yn troi’n sglein.
Powlenni Clai Polymer a gemwaith lliwgar sydd wedi ei ysbrydoli gan gariad at liw a phatrwm sydd wedi ei feithrin drwy ddyluniadau defnydd.
Llyfrau wedi eu pwytho a grëwyd i dreiddio’r gwir a'r dychmygol, gan archwilio pwytho a dadbwytho’r hunan drwy weithgareddau cyffredin.
Powlenni gwydr ymdoddedig a chwmanog a matiau diod a ysbrydolwyd gan siapiau a phatrymau naturiol. Defnyddia Verity dechnegau haenu i greu dyfnder i’w dyluniadau.