19eg Gorffennaf - 23ain Awst 2008
Mae pob arlunydd yn trawsffurfio deunydd i ffurfio celfyddydwaith. Nid yw un o’r arddangosion yn dibynnu ar y cyd-destun i ddiffinio’i hun fel celfyddyd. Mae pob un yn gwahaniaethu ei hun fel gwrthrych trwy ei natur farddol a’i union ffurf – daw darn o gardbord yn ddilledyn hardd a chaif telpyn o gwyr ei droi’n gwpan.
Roedd yn gyd-ddigwyddiad taclus braidd bod popeth wedi cael ei dynnu ynghyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (Mawrth 8)! Ond nid oedd unrhyw fwriad ar fy rhan i ddewis merched yn unig – digwyddodd felly wrth i mi ddechrau llunio siâp a chysyniad y sioe.
Roedd pob un o’r pump yn fyfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr lle’r wy’n dysgu ac yn adnabod y mwyafrif trwy’r Adran Gwneud Printiau.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
Mae’n arddangosfa arbrofol ryfeddol, a roddwyd at ei gilydd ar gyllideb fechan iawn.
Dechreuodd y broses ryw dair blynedd yn ôl yn dilyn fy arddangosfa fy hun yn Oriel Washington, Penarth, yn 2003 (cyfres Dylan Thomas).
Trefnais roi sioe gymysg at ei gilydd, Y Môr a’i Ymyl gyda chyfraniadau paentwyr John Addyman, Tony Turner, Clive McArthy, Robert Alwyn Hughes a’r ceramegydd Ingrid Murphy: ymatebodd y cyhoedd yn gryf iawn iddo.
Meddyliais fod hyn yn hynod ddiddorol oherwydd ei fod yn dangos creu celfyddyd nad oedd yn mynd yn union gyda’r llif cyfredol ond, ar yr un pryd, nad oedd yn adweithiol o gwbl.
Er nad oeddwn yn bwriadu bod yn ddadleuol, mae’n bwysig i mi ddangos cyrhaeddiad mwy celfyddyd gyfoes oddi allan i gylchdro Gwobr Turner / Ciwb Gwyn.
Bellach mae sioeau enfawr yn tueddu i guddio llawer o gelfyddyd dda. Os edrychwch ar arfer celfyddyd heddiw lle mae’n tynnu sylw ato’i hun, hyd yn oed os nad yn fwriadol, a’r nofel sy’n cael ei dyrchafu ac yn cael sylw mawr.
Nid yw hyn yn digwydd ar ei ben ei hun, ond mae’n tynnu sylw oddi ar y darnau distawach, mwy myfyriol, a’r rhai sy’n tynnu ar draddodiad hŷn o lunio pethau.
Mewn celfyddyd, rwy’n chwilio am y ffordd y bydd arlunydd yn trawsffurfio deunyddiau crai yn rhywbeth arall, rhywbeth fel yr alcemydd a fu. Mae’n gelfyddyd nad yw’n dibynnu am ei dilysrwydd ar syniad Duchamp fod cyd-destun yn diffinio a yw’n waith o gelfyddyd neu beidio – pa mor werthfawr bynnag yw’r syniad hwnnw, ac y bu i lawer o gelfyddyd yr 20fed ganrif.
Mae’r arddangosfa hon yn dangos arferion celfyddyd sy’n dibynnu ar nifer o wahanol sefyllfaoedd athronyddol a dylanwadau arlunwyr fel Jasper Johns, Claus Oldenberg a Louise Bourgeois.
Nid oes dim cyfrwng cyffredin yn cysylltu’r pum cerflunwraig ond mae pob un yn dangos unplygrwydd yn y gwaith a chyd-ymwybyddiaeth sy’n apelio.
I Deborah Lewis mae darnau o ddeunydd, carreg, efydd a manion gwnïo’n gysylltiedig â medrau a chrefftau merch yn ei theulu er bod ganddi ddiddordeb hefyd yn yr amgylchedd naturiol, pethau a gafwyd a byd sgrialwyr.
Mae Justine Johnson yn gweithio yng ngwyddorau technegol cerflunio, ffotograffiaeth, lluniadu, gwneud printiau a phaentio. Mae’n ceisio trawsffurfio arteffactau (neu brofiadau) cyfarwydd yn wrthrychau sy’n codi uwchlaw eu man cychwyn.
Dewisais Ami Marsden oherwydd ei bod yn dangos elfen o ddigrifwch yn ei gweithiau o olygfeydd cartrefol a wnaed o gardbord trwy bethau cofiadwy bywyd teuluol.
Gyda Sally Greiner – fel Justine Johnson, mae hefyd yn dod o’r UDA – ei defnydd o ddeunyddiau a phethau pob dydd sy’n fy nghyfareddu ac yn rhoi mwynhad i mi. Mae’n ymddangos ei bod yn mwynhau rhoi cyfle i’r deunyddiau hyn ddisgleirio, “yn sbotolau ein bwriad llawn”.
Cyfuniad yw gwaith Louise Bird o ddamcaniaeth wyddonol ac arfer cyfredol. Seiliwyd ef ar seryddiaeth a syniadau cyfredol ynghylch natur gofod ac amser.A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim