Archif - Oriel Majenta

Barbara Howell - Tecstiliau

13 Rhagfyr - 8 Ionawr 2004

Arddangosfa o tecstiliau gan arlunydd Barbara Howell, efo engreifftiau o cwiltiau fawr i brodwaith cymhleth.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Datganiad yr Artist 2004

Rwyf wedi gwnïo erioed ac rwyf wedi symud o bwytho ymarferol i waith addurniadol felly, er fy mod yn aml yn disgrifio fy hun fel ‘brodweithwraig sy’n gwneud cwiltiau’, mae’r cwiltiau i’w hongian ar waliau yn hytrach nag i orchuddio gwelyau gan amlaf. Mae fy ngwaith diweddar gyda dyluniadau o ffynonellau Celtaidd a fy ffotograffau fy hun wedi fy annog i gynhyrchu darnau y gellir eu fframio yn ogystal â darnau i’w hongian ar waliau ac mae llawer o’r gwaith arbrofol yn arwain at lunio clustogau – gan fynd â mi’n ôl at yr elfen ymarferol.

Rwy’n cael fy swyno gan bosibiliadau dehongli syniadau dylunio gan ddefnyddio tecstilau. Mae’r ffabrigau a’r edefau ar werth yn cynnig amrywiaeth eang o ran gweadedd, patrwm a lliw ac mae’r posibiliadau i mi ehangu ar hyn yn ddiddiwedd! Rydw i’n printio, cannu a llifo yn ogystal â chreu gweadedd gyda phwythau cain a thrin ffabrig. Os edrychwch yn ofalus ar fy ngwaith fel welwch fy mod yn defnyddio nifer o dechnegau o’r fath mewn un darn o waith yn aml.

Roeddwn i’n arfer cael trafferth gyda lliwiau; roedd llawer o’m gwaith cynnar mewn monocrom – roedd gwyn ar wyn yn ffasiynol iawn bryd hynny ac rydw i bob amser wedi mwynhau gweadedd sy’n gweithio’n dda mewn un lliw. Weithiau byddwn yn llifo swp o wahanol ffabrigau gyda’i gilydd a defnyddio’r amrywiaeth lliwiau oedd yn deillio o hynny i greu panel – mewn gwahanol wawriau o’r un gwyrdd, er enghraifft. Pan ddechreuais wneud cwiltiau wedi’u seilio ar fatiau Cawcasaidd y canfyddais os oeddwn i’n gallu ailgreu’r lliwiau gwreiddiol roedd siawns dda y byddai’n edrych yn gywir – felly cynyddodd fy hyder.

Rwy’n gweithio gyda pheiriant gwnïo yn arferol. Rwy’n cofio’r gweithdy brodwaith â pheiriant cyntaf yr es iddo, rhyw 30 mlynedd yn ôl, a’r wefr a gefais. Mae rhai o’r darnau gwaith yn cynnwys llawer o waith pwytho ac mae hyn yn un o’r agweddau rwy’n ei fwynhau’n fawr. Rwy’n disgrifio un o’m technegau fel ‘dros ben llestri’ gan fy mod i’n rhoi gymaint o haenau o bwythau ar ben ei gilydd.

‘Does gen i fawr ddim hyder yn fy narlunio felly rwy’n chwilio am ddyluniadau mewn amgueddfeydd, llyfrau, gwaith mosaig a phensaerniaeth. Yn gyffredinol rwy’n ceisio osgoi cymryd ysbrydoliaeth o waith brodweithwyr neu gwiltwyr eraill ond rwyf wedi gwneud nifer o ddarnau wedi’u seilio ar ddyluniadau o fatiau o’r Dwyrain Canol ac rwy’n aml yn meddwl fod patrymau o’r fath wedi esblygu drwy’r cenedlaethau ac wedi goroesi. Yn fwy diweddar rwyf wedi defnyddio fy ffotograffau fy hun fel man cychwyn.

Rwyf wedi bod yn ffodus cael fy arddangosfeydd fy hun yn ogystal â chyfrannu i arddangosfeydd grŵp i werthu fy ngwaith. Rwy’n teithio cryn bellter yn aml i rannu fy mrwdfrydedd a fy mhrofiad drwy gynnal sgyrsiau a gweithdai ac rydw i’n wirioneddol fwynhau cael y cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn ‘sgwrsio ac arddangos’ unigol ac annog pobl i roi tro ar rywbeth newydd. Rwy’n ysgrifennu erthyglau am fy ngwaith pwytho ar gyfer cylchgronau ac rwy’n disgwyl i’m llyfr am syniadau dylunio gan y Celtiaid gael ei gyhoeddi’n fuan.

Barbara Howell,
Cae Cam, Ochr y Bryn, Henllan,
Denbigh, LL16 5 AT - Ffôn: 01745 812800


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.

Oriau Agor Oriel Majenta

9.00am - 7.00pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.00am - 4.00pm Dydd Sadwrn

yn ôl i'r brig