The Beautiful Game - Colin Yates & Ben MosleyMae’r arddangosfa hon yn cynnwys lluniau, peintiadau a phrintiau gan ddau artist unigol sy’n ymdrin â’r pwnc o hiliaeth ym maes pêl-droed.
Lleolir Colin Yates yn Coventry
ac mae’n artist sefydlog sy’n defnyddio ei waith fel adnodd addysgol i hybu cydraddoldeb hiliol yn y gêm bêl-droed. Mae ei arddangosfa deithiol, Black Looks
, yn olrhain hanes pêl-droedwyr proffesiynol du ym Mhrydain yn y 10 mlynedd ddiwethaf.
![]() |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd | |
‘In 1997 I started a project tracing the history of black professional footballers in Britain from 1898 - 1998 through a series of drawings, paintings and prints. The initial idea of portraying twelve key black footballers, mainly selected from players of the 1960’s and 70’s has developed with research into the history of black football which now includes a pool of well over sixty players. This has coincided with a general rediscovery and interest in black footballers in particular the ‘black icons’ Arthur Wharton and Walter Tull.’
Colin Yates
Mae Colin wedi creu gwaith newydd yn canolbwyntio ar bêl-droedwyr du o Gymru ar gyfer yr arddangosfa hon.
Mae Ben Mosley yn byw yn Hertfordshire
ac mae newydd raddio yn y Celfyddydau Cain. Mae wedi parhau â’r thema o bêl-droed yn ei luniau, gan greu gwaith newydd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa hon. Mae gwaith Ben yn dangos torfeydd yn ystod gemau pêl-droed a digwyddiadau sy’n cynnwys y chwaraewyr. Canolbwyntia gwaith newydd Ben ar hybu gwrth-hiliaeth ar y cae ac yn y standiau.
![]() |
![]() |
![]() |
|
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd | |
‘I was interested in the dynamism, the electricity, the power and the emotion of football players and fans, what it means to be a football fan and a player, as both interact.’
Ben Mosley
Mae’r Gêm Brydferth yn rhan o ddathliad pêl-droed ledled y Fwrdeistref o’r enw ‘Goliau Aur’ gyda digwyddiadau trwy gydol Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 04. Mae’r arddangosfa’n cefnogi’r ymgyrch gwrth-hiliaeth genedlaethol Let’s Kick Racism Out Of Football
, a gynhelir rhwng 14 Hydref a 26 Hydref 04.
Gallwch gael mwy o fanylion ar www.kickitout.org
Bydd yr artist Colin Yates yn siarad yn anffurfiol am ei waith a’r arddangosfa yng Nghanolfan Gelf Wrecsam ddydd Sadwrn 20 Tachwedd am 2pm.
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Oriau Agor Oriel Indigo
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim