Archif - Oriel Indigo

A day in the life of Bombus

8 Gorffennaf - 25 Awst 2007

Mae Adrian Barron, artist printiau sydd wedi gwneud gosodiadau a cherfluniau, yn ymwybodol iawn o'r cydadwaith rhwng proses a syniad.

Mae sawl maes lle mae 'print' a 'chysyniad' yn gwrthdaro'n ffrwythlon fel arwyddion diwylliannol a ffurf.  Meddyliwch am y bag plastig hollbresennol a'i eiriad haerllug 'diolch am siopa yn… brysiwch yn ôl', y cyfeirir ato'n wych gan bobl fel Barbara Kruger. Meddyliwch hefyd am grysau T Katherine Hamnett a Gonzales Torres - asid pur - a graddfa ac ymwybyddiaeth gyhoeddus bellach y bwrdd biliau a ddefnyddir gan nifer o artistiaid cyfoes.  Mae gorgyffwrdd yn anochel.  Sylwedd wedi'i argraffu ydyw wedi'r cyfan ac mae sylwedd y print yn tryddiferu i'n bywydau bob dydd, trwy ieithoedd ysgrifenedig ac ar lafar.  I Barron, mae'r holl wefrau creadigol hyn yn darparu tensiynau hollol ymarferol.

Ar y wyneb, ymddengys nad oes gan y ddau brif waith yn yr arddangosfa hon lawer yn gyffredin, ond maent wedi'u dyfeisio a'u gwneud yn gyfoes yn stiwdio'r artist.  Mae'r ddau'n defnyddio print fel cyfrwng.  Yn gysyniadol, mae'r ddwy gyfres yn archwilio'r syniad o ddinistr neu argoel o'r dinistr hwnnw.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd
Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Mae'r cyfresi o ysgythriadau du a gwyn mawr o danciau a elwir yn Landings yn fotiffau o'r grymoedd dinistriol hyn.  Mae eu lluniau a'u poblogrwydd yn gyffredin yn ein cyfryngau newyddion ac rydyn ni'r gwylwyr yn rhannol ddideimlad i'w dyluniad arswydus.  Rydym yn ochneidio i gydnabod ein hamnesia diwylliannol.  Maent yn troi'n abwyd gweledol ac rydym ni'r defnyddwyr yn troi'n garcharorion i'n inertia ein hunain.  Dyma ein trasiedi, dynoliaeth tua 2007.  Mae archwiliadau pellach o'r drychiolaethau hyn yn datgelu rhywbeth gwahanol iawn.  Wrth edrych yn agosach ar y cerbydau unigol gwelwn ni nhw fel astudiaethau cuddliw credadwy.  Byddwn yn meddwl mai natur cuddliw yn ei hanfod yw rhywbeth sydd mewn unrhyw ffurf ond ei ffurf wreiddiol.  Yn achos y bwystfilod tri dimensiwn hyn, ymddengys bod y tanciau hyn, sydd bellach â chuddliw,  yn dychwelyd i gyfnod cynharach.  Pe na bai'r eiconau erchyll hyn mor ofnadwy, bron na allent fod yn ddigrif.  Defnyddiwyd ysgythru am y tro cyntaf yn Ewrop i addurno arfwisgoedd marchogion y canoloesoedd.  Mae byddinoedd cyfoes yn cuddliwio'u cerbydau efallai fel cysur i'r deiliaid nerfus sydd y tu mewn, cymaint â fel cad-drefniant gweithredol tactegol.  Ond o safbwynt y gwyliwr, i'r plentyn yn Irac neu Afghanistan, neu'r cymeriadau Janet a John yn llyfrau lluniau Barron, mae Landings 2, er enghraifft 50 tunnell o ddur yn chwyrnu ac wedi'i orchuddio â stribedi a smotiau yn creu'r un teimlad o arswyd a pharchedig ofn a gafwyd yn yr hen oesau pan oedd natur wyllt, anrhagweladwy yn brawychu ein cyndadau.  I gyfleu'r teimlad hwn ymhellach, mae nifer ohonynt wedi cael enwau anifeiliaid, megis Panther a Leopard 2, sef prif danc brwydro mwyaf 'llwyddiannus' heddiw - yr un sy'n gwerthu orau.  Mae enwau fel hyn hefyd yn cyfeirio at argraff egsotig a ffyrnig, rhywbeth na allwn ei ddeall yn glir ac felly na allwn ei amgyffred.  Felly rydym naill ai'n rhedeg neu'n edrych i ffwrdd.

Mae cuddliw mewn brwydr, yn arbennig synfyfyriad dynol, yn ein harwain at synfyfyriad Barron ar guddliw mewn natur, yn arbennig ym myd y pryfaid.

Offensive mimicry designed to surprise the prey, defensive mimicry designed either to escape the sight of the aggressor (mimicry of dissimulation) or to frighten it away by a deceptive appearance (mimicry of terrification ); …direct mimicry when it is in the immediate interests of the imitating  animal to take on the disguise, indirect mimicry when animals belonging to different species, following a common adaptation, a convergence, in some way show professional resemblances…Since the mimetic rivalry that develops from the struggle of the possession of the objects is contagious it leads to threats of violence.

Mae'r ail brif gyfres yn arddangosfa A day in the life of Bombus, yn cynnwys gwasgnodau o bryfaid a gasglwyd o ardd Barron ei hunan yn Northampton.  Mae byd y pryfaid wedi'i archwilio a'i gofnodi.  Mae pob corff wedi'i wasgu ar fetel oer a chwyr cynnes i wneud argraffiad gyda'u hesgyrn (chitin) a'u fiscera.  Mae asid wedi'i dywallt ar y cast cwyr i ysgythru'r arwyneb metel moel gan gofnodi'r wybodaeth hon yn y dur.  Ychwanegir inc i adael llwybrau inc ar wyneb y papur.  Nid oes dynion da na drwg.  Mae'r gwlithod, malwod a phryfaid cop i gyd yn gyfartal â chacwn a gloynod byw a'r fuwch goch gota.  Maent i gyd yn gyfartal ym myd gardd Barron.  Caiff pob marwolaeth fach ei rhifo, gan awgrymu'r posibilrwydd bod mwy i ddod.   Mae'n enghraifft o ladd craff sy'n ymddangos fel pe bai'n cynnig ei hun ar gyfer dadansoddiad.  Mae fel arbrawf gwyddonol ffug o'r cyfnod Fictoraidd heb unrhyw fath o reolaeth arno.  Mae gair o'r un cyfnod sy'n dynodi obsesiwn niwrotig, sef 'seicasthenia’ yn cyfleu hyn.  Ond caiff mowld ysgythru traddodiadol ei brofi.  Caiff confensiwn yr argraffiad ei ogwyddo.  Ceir enghreifftiau unigol, fel y pryfaid eu hunain.  A dyma eu moment.

Ymddengys bod y ddwy gyfres yn dod o safbwyntiau gwrthwynebol.  Mae Barron yn disgrifio'r ffenomen hon fel ‘anghyseinedd gwybyddol', term y mae'n ei fenthyg gan Eon Festinger.

Dywed Barron: 'Heddiw mae llawer o amrywiadau yn ystyr anghyseinedd gwybyddol.  Yn gyffredinol caiff ei ddisgrifio fel dau feddylfryd anghyson am yr un syniad; mae'r rhain yn digwydd ar yr un pryd ac mewn rhai achosion mae'n arwain at gyflwr o wallgofrwydd llwyr.  Mae'r mwyafrif o bobl yn y cyfnod hwn yn cael eu cymell i ffurfio cyfres newydd o gredoau neu gysyniadau.  Yn yr achos hwn mae'r syniad newydd yn negydu'r ymdeimlad o fraw meddyliol a roddir gan y syniad neu'r syniadau cyntaf.’

Mae Barron yn cyfaddef yr anghyseinedd gwybyddol a achosir gan anghydbwysedd a grëir gan y gweithiau newydd hyn sy'n tarddu o'i ardd.  Gardd a oedd yn ddim ond glaswellt tan ychydig flynyddoedd yn ôl.  Nawr mae angerdd a gofal wedi'u plannu ynddi sy'n aeddfedu'n araf gyda blodau amrywiol.  Mae pwll dŵr yn ei ganol. Ceir llysiau yn y pen pellaf.  Mae nifer o leoedd i lechu, cuddio a gwylio yno.  Yn yr 'ardd' hon sydd wedi'i hailstrwythuro, mae Barron wedi rhoi natur yn ôl iddi.  Gall ei deulu dorheulo yn ei haroglau a'i gweadau a chasglu a bwyta o'i gwledd.

Yn The Experience of Landscape mae Jay Appleton yn esbonio bod y teimladau hyn yn hanfodol yn yr ardd yn gyffredinol gan eu bod fel anogaeth a deimlir er bod yr angen amdanynt wedi diflannu.  Mae Appleton yn honni y gallwn weld a theimlo tirwedd parciau, gerddi, peintiadau - fel ymdeimlad tiriogaethol yr heliwr-gasglwr a oedd yn byw o'n blaenau.  A hynny, meddai, mewn tirwedd ddymunol yr ydym yn ei hedmygu fel rhywbeth aruchel, darluniadol neu brydferth, mae angen i ni rywsut deimlo ein bod wedi'n lleoli lle gallwn weld heb gael ein gweld.  Yn y bôn rydym yn hoffi tirwedd lle gallwn ddarganfod a hela ysglyfaeth.  Mae Appleton yn gweld y dirwedd hon fel golygfa sy'n llawn o botensial aruchel sy'n cynnwys gorwelion, llochesau, golygfeydd, magnetau, offsetiau a'r hyn y mae ef yn cyfeirio at fel dado awyr, ffurf fwaog fel cangen yn dod o goeden sydd ychydig uwchben y gorwel o safbwynt y gwyliwr.  Mae'r holl syniadau hyn yn cydberthyn  fel bywyd perffaith yn ein hymenyddiau anymwybodol.

Mae Barron yn disgrifio'r sefyllfa yn ei ardd ei hunan: 'Yn fy ngardd caiff brwydrau eu hymladd yn y glaswellt a'r border llysieuol, fel yn ein cyfnod ni ac ers cyn cof.’

Trwy gydol hanes y gorllewin mae athronwyr ac ysgrifenwyr wedi chwilio am adlewyrchiad ohonom yn ein gerddi ac maent yn arsyllu ar y wenynen.  Mae Aristotlys yn edrych ar y wenynen fel trosiad o gymdeithas Roegaidd ac yn edrych ar y gweithwyr fel caethweision diwerth sy'n gwneud dyletswyddau tan eu marwolaethau anraslon.  Y frenhines a'i gosgordd yw'r perchnogion hamddenol.  Mae dadansoddiad comiwnyddol yn darlunio chwaeroliaeth o wenyn gweithio i gyd yn gyfartal â'r frenhines fel y wlad, yn hytrach na'r Unol Daleithiau cyfalafol lle caiff y frenhines ei phortreadu fel y cadeirydd corfforedig a'r gweithwyr fel broceri stoc ffwdanus. Mewn stori fer mae Kipling yn disgrifio'r dinistr mewnol mewn cwch gwenyn lle mae gwyfyn cwyr rheibus yn gwisgo fel gwenyn gweithio er mwyn dinistrio'r gytref.

Mae llyfr Barron, Bees under the magnifying glass, yn drafodaeth am yr anghyseinedd gwybyddol y mae'n ei deimlo.  Mae'n tynnu bywyd bob dydd y wenynen wedi'i symleiddio at ei gilydd, ond mae'n cael ymdeimlad newydd o gydbwysedd rhwng dylanwadau mewnol ac allanol, megis y ceidwad gwenyn a'r gwyfyn cwyr.  Fe'u gwelir yn cydbwyso ar naill ben y llyfr.

Mae Barron yn cynnig ffordd o ddarllen camau gweithredu natur fachigol i'w ddarllenwyr fel trosiadau, gwersi hyd yn oed, i gydnabod sefyllfa drasig gwleidyddiaeth gyfoes.  Ymddengys bod cyfraith ein jyngl yn tywyllu ein dealltwriaeth o natur pethau yn fwriadol.  Trwy ein dryswch a'n hanwybodaeth rydym yn methu ag ymateb ac yn cydgynllwynio trwy ein tawelwch.

Tim Davies 2007

Nodiadau
R. Caillois, 1935, ‘Mimicry and Legendary Psychasthenia’ Minotoure 7
E. Festinger, 1957, A Theory of Cognitive Dissonance Stanford, Stanford University Press
Sgwrs gyda'r artist,  Mai, 2007
J. Appleton, 1975,  The Experience of Landscape Chichester, John Wiley & Sons
Sgwrs â'r artist, Mai 2007
J, Khalifman, 1951, Bees (enillydd gwobr Stalin) Moscow, Foreign Language Publishing House


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn

Mynediad am Ddim

Oriel 103

Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW

01978 290666

10.00am–4.00pm (dydd Llun – dydd Gwener)

yn ôl i'r brig