Oriel Wrecsam - Oriel Indigo

Gwydr Gwych

2 Rhagfyr 2011 – 28 Ionawr 2012
Cip o flaen llaw : 1 Rhagfyr 6-8pm

‘Yn Datgelu Diddordeb Newydd mewn chwythu gwydr Prydeinig’

Mae anadl dynol ar wydr poeth yn ddull hynafol o drin defnyddiau.

Yn yr arddangosfa hon mae’n fan cychwyn i archwilio materion megis bywyd, marwolaeth, sain a symudiad mewn gwrthrychau mor annisgwyl â llawfom a thrombôn gwydr.

Mae’r arddangosfa'n dangos gwaith 17 o wneuthurwyr cyfoes arloesol a phum darn o waith rhagorol o gasgliad y Cyngor Crefftau.

Admission free

Atelier (manylion), 2010, Elaine Sheldon, gwydr, pren, metel: bwrdd, lamp wedi’i ailgylchu a chysgodlen lamp a rydd-chwythwyd. Llun: Nick Moss Apartments (manylion), 2010, El Ultimo Grito, gwydr pyrecs; rhydd-chwythwyd. Llun: Michael Tolke
Red Stretch, 2009, gwydr, llechen; tiwbiau wedi’u rhydd-chwythu. Llun: Adrian Sassoon

yn ôl i'r brig