
Bu Canolfan Gelf Wrecsam yn rhan o breswylfa artist yn ddiweddar yn cynnwys tair ysgol yng nghanol tref Wrecsam – Ysgol Fabanod San Silyn, Ysgol Iau San Silyn ac Ysgol Gynradd Babyddol y Santes Fair. Ariannwyd y prosiect 6 wythnos ar y cyd gan Cywaith Cymru/Artworks Wales ac Awdurdod Datblygu Cymru, drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae’n gysylltiedig â’r cynlluniau ailddatblygu presennol ar gyfer ardal Stryt y Bont/Allt y Dref yng nghanol tref Wrecsam.
Penodwyd artist llyfrau Becky Adams ym mis Chwefror 05 fel y dewis artist. Y nod oedd ymweld â disgyblion a staff o Ysgol Fabanod San Silyn, Ysgol Iau San Silyn ac Ysgol Gynradd Babyddol y Santes Fair a leolir tu mewn i’r ardal adfywio a gweithio gyda nhw am gyfnod o chwe wythnos yn ystod gwanwyn 05. Byddai’r gwaith a gynhyrchwyd gan y disgyblion yn cael ei seilio ar hanes cymdeithasol, diwydiannol ac amgylcheddol lleol a byddai pob ysgol yn cael cadw eu gwaith ar ddiwedd cyfnod y breswylfa. Byddai amser yn cael ei glustnodi yn ystod y chwe wythnos am unrhyw ofynion ymchwil a fyddai’n ffurfio rhan o’r wybodaeth i’w hanfon i gomisiwn celfyddydau cyhoeddus yn hwyrach eleni.
Cynnig Becky oedd i bob disgybl greu llawlyfr ac i gynnwys y llyfr fod yn ‘ganllaw i Wrecsam’ gan bob grŵp blwyddyn unigol. Byddai’n cynnwys lluniau, mapiau, ffotograffau a hanes personol. Bwriadodd atgynhyrchu rhai tudalennau o lyfrau ar baneli brethyn i’r ysgol eu defnyddio i hongian ar eu waliau. Dymunai Becky i bob plentyn gynhyrchu tudalen arbennig y byddai hi’n eu rhwymo at ei gilydd a chreu clawr pren i roi i’r ysgol fel rhywbeth i’w gofio o’r breswylfa.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd
Yn ystod y prosiect, gweithiodd Becky gyda 649 o blant rhwng 4 a 10 oed.
Mae pob plentyn wedi cynhyrchu llyfr bach neu lun yn ymwneud â Wrecsam bresennol a gorffennol, yn amlygu hen ddiwydiannau a thirnodau ar ffurf lluniau, printiau, llungopïau a thestun. Gwnaed clawr bob llyfr o ledr ffug ag enw pob disgybl wedi ei arysgrifo â dalen aur.
Roedd yr atborth gan yr holl ysgolion yn bositif iawn ac mae’r cyfryngau lleol wedi rhoi sylw i’r prosiect ar un neu ddau o achlysuron. Cynhyrchwyd a dosbarthwyd pecyn bach o gardiau post yn perthyn i’r prosiect i bob plentyn a oedd yn rhan o’r prosiect fel man cychwyn i ddatblygu gwaith pellach ar y pwnc yn yr ysgol.
Arddangosir y gwaith a gynhyrchwyd gan y plant tan 17 Gorffennaf 05. Mae’r gwaith yn cynnwys llyfrau a wnaed gan y plant, lluniau o ‘Fy Hoff Le yn Wrecsam’ yn ogystal â’r llyfrau mawr a gyflwynwyd i bob ysgol gan Becky.
Gwahoddir ymwelwyr i’r arddangosfa i wneud sylw am yr hyn a welant a’i roi yn y blwch a ddarperir. Bydd yr holl gyfraniadau’n cael eu rhoi i mewn i gapsiwl amser i’w gladdu ar safle Stryt y Bont yn ystod yr ailddatblygiad.
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Oriau Agor Oriel Majenta
9.00am - 7.00pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.00am - 4.00pm Dydd Sadwrn