

21 Ionawr – 19 Mawrth 2011
Cynweliad: Iau 20 Ionawr 6-8pm
Arddangosfa o waith artist eginol, Francois Nicolaas Grobler, yn dangos fel rhan o Gyfres Crysalis sy’n arddangos gwaith graddedigion diweddar o gwrs gradd Celfyddyd Gain Prifysgol Glyndŵr.
![]() |
| Francois Grobler, Di Deitl VI, delwedd trwy garedigrwydd yr artist |
![]() |
| Francois Grobler, Di Deitl VII, delwedd trwy garedigrwydd yr artist |
Trwy ei waith, mae Grobler yn archwilio syniad ymyrryd mewn tirwedd. Yn aml yn edrych ar ei amgylchoedd trwy lens camera neu wedi’i fframio gan ffenestr, mae Grobler yn dehongli’r siapiau a phatrymau a wnaed gan y golygfeydd newidiol wrth i gefn gwlad droi’n drefol; caeau’n cael eu rhannu gan wrychoedd neu ffensys sydd wedyn yn ildio i ymyriadau’r amgylchedd adeiledig.
Trwy gyfrwng paent, mae’r gwaith canlyniadol yn gyfnewidiol, yn llawn symudiad ac yn llifo o liw cyferbyniol. Mae’r siapiau a synergedd llinell sy’n deillio’n creu amgylchedd sy’n teimlo’n gyfarwydd ac yn rhoi gwir ymdeimlad o le.


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Iau 20 Ionawr 6.30pm
Sgwrs Artistiaid
Ar noson y cynweliad, bydd artist Francois Nicolaas Grobler yn sôn am ei waith yng nghyd-destun yr arddangosfa hon.
Llun Cyntaf y Mis
Digwyddiadau blasu min nos ar gyfer oedolion yn cynnig cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o dechnegau creadigol / cyfryngau yn cael eu cynnal fel arfer ar ddydd Llun cyntaf pob mis. Nid oes angen profiad o gelfyddyd. Dylid cadw lle
Llun 7 Chwefror 5-6:45pm
Blaswr Paentio
Gweithdy blasu paentio ymarferol gydag artist yr arddangosfa, Francois Nicolaas Grobler. Yn agored i bawb, mae’r sesiwn hwn yn rhoi cyfle i’r rhai o bob lefel roi cynnig ar baentio a ysbrydolwyd gan arddangosfa Grobler.
Mae’r sesiwn cyntaf am ddim yna £3 (£2 consesiynau)
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.45pm
Dydd Sadwrn 9.30am – 4pm