24 Mehefin - 15 Gorffennaf 2006
Detholiad o waith myfyrwyr y cwrs gradd Celfyddyd Gain yn NEWI. Dyma'r grŵp cryfaf o beintwyr i ddod o'r coleg dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r arlunwyr yn ymdrin â materion mor amrywiol ag iechyd meddwl a'n perthynas â'r amgylchedd.
Cynhelir y sioe am dair wythnos ac mae'n dangos detholiad o waith 11 o fyfyrwyr blwyddyn olaf sydd ar fin derbyn eu graddau BA (Anrhydedd) Prifysgol Cymru mewn Celfyddyd Gain yr haf hwn.
"Yn oes 'yr unigolyn', mae'n dod yn fwyfwy anodd bod yn wahanol i eraill ond credaf fod pob corff o waith yn y sioe yn arddangos sut y gall llais yr unigolyn 'ganu allan' ac rwy'n rhagweld y bydd y garfan o raddedigion Celfyddyd Gain 2006 yn parhau i ymateb i'r her hon yn eu gyrfaoedd fel arlunwyr creadigol".
Dr Alec Shepley, Darlithydd Celfyddyd Gain.
Ymysg y cysyniadau mwy haniaethol, daw'r ymwelwyr wyneb yn wyneb â'r hyn sy'n ymddangos fel tai prototeip. Dywed yr arlunydd, Mike Wilson, 'O synnu ar weithredoedd y rhai hynny sy'n ymddangos fel petaent yn gwbl sicr, myfyriais ynghylch doethineb diddanu ychydig o amheuaeth. Arweiniodd hyn fi at lawysgrifau Bertrand Russell. Rwyf wedi ceisio mynegi ansicrwydd ac amheuaeth yn fy ngwaith trwy ddefnyddio lliwiau adlewyrchol a dyfeisiadau eraill i dynnu sylw'r ymwelwyr. Nid triciau yw'r gweithiau hyn o gwbl; dylai unrhyw un sy'n fodlon ymchwilio weld sut maent wedi'u gwneud'.
Mae Paul Redman yn dod â hen gyfrifiaduron yn ôl yn fyw 'Mae agendor wedi'i greu wrth wella technoleg a gadael cydrannau ar ôl. Mae'r darnau hyn yn gwyro oddi wrth anghenraid gweithredol i fod yn segur ac yn llonydd; maent yn dod yn wrthrych pur, allan o gylchrediad, anweledig.'
![]() |
| Copyright reserved by the artists |
![]() |
| Copyright reserved by the artists |
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Oriau Agor Oriel Indigo
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim