Archif - Oriel Indigo

Pwy ydw i i ddiflannu?

Deialog rhwng tirwedd a meddwl

8 Mawrth - 19 Ebrill 2008

Deialog o ymarfer mapio trafodaethau cyfredol ym maes lluniadu.

Y tri arlunydd sy’n sgwrsio yw Dr. Richard Gant (Prifysgol John Moores Lerpwl), Simon Burton (Prifysgol Huddersfield) a Dr Chew Kim Liong (Academi Nanyang Singapore).

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd
Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Gallai disgrifio hon fel ‘Arddangosfa Lluniadau’ ddrysu llawer o bobl. I bob diben mae’r rhain yn gasgliad amrywiol o arlunwyr heb ddim llawer o gysylltiad rhwng eu gwaith ar yr olwg gyntaf. O edrych ychydig yn ddyfnach daw edeifion gofod a thirwedd i’r amlwg. Wrth ddewis gweithio mewn gwahanol ffurfiau mae’r cysylltiad â mannau ystyrlon trwy luniadu’n hollbwysig i daith pob arlunydd wrth gynhyrchu’r gwaith hwn.

Maent yn arlunwyr ac academyddion ac maent wedi cysylltu trwy ddeialog a myfyrdod, o hyd yn amau eu hymatebion eu hunain i’r tirweddau y denwyd hwy atynt. Mae daearyddiaeth, diwylliant, athroniaeth a phellter yn nodweddu elfennau rhyngwladol yr arddangosfa.

Penderfynwyd ar enw’r arddangosfa ‘Pwy wyf i i ddiflannu?’  trwy drafodaeth ar natur hunanymwybyddiaeth a dilead wrth arfer celfyddyd. Mae’r ddeialog yn debygol o barhau; dim ond saib yn y sgwrs yw’r arddangosfa.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Mae’r catalog sy’n mynd gyda’r arddangosfa yn cynnwys ffont a ddyluniwyd o’r newydd gan Dr Steve Swindells a Paul Heys o Brifysgol Huddersfield.


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn

Mynediad am Ddim

yn ôl i'r brig