28 Hydref – 2 Rhagfyr 2006
Mae "The Origin of Painting" gan Disinformation yn berfformiad sain a golau byw, rhyngweithiol iawn, hwyliog a hawdd ei ddeall sy'n annog y gynulleidfa i dynnu llun o'u cysgod i gerddoriaeth o swn eletromagnetaidd byw (a rhyfeddol o gerddorol). Mae'r perfformiad yn eich galluogi i arlunio â golau yn uniongyrchol ar arwyneb llun – a chreu graffiti, portreadau, lluniau haniaethol ayb sy'n llythrennol wynias. Mae'r perfformiad yn dwyn ei enw oddi wrth "The Corinthian Maid, or The Origin of Painting" gan Joseph Wright yn 1782. Mae'r cysgodion a gynhyrchir gan yr arddangosfa'n gweithredu fel ffurf gyfoes o waith Vanitas traddodiadol. Ysgrifennodd yr awdur ffuglen wyddonol, Jeff Noon, yn The Independent "people are fascinated by this work, it brings a shiver, a sudden recognition of death, as if we have seen or heard our own ghost" a disgrifiwyd yr arddangosfa yn un "visually stunning" gan bapur newydd The Metro ac "actively thrilling" gan The Financial Times.
![]() |
| Disinformation "The Origin of Painting" Hawlfraint © Duncan Shepherd 2003 |
Mae'r arddangosfa'n cynnwys gosodiad arall gan Disinformation sy'n dwyn ei deitl o "The Analysis of Beauty" – llyfr a ysgrifennwyd gan yr artist William Hogarth yn 1753. Mae "The Analysis of Beauty" yn gyfatebiad cyfoes o baentiad Trompe L'Oeil – defnyddio signalau o gynhyrchwyr sindonnau i greu patrwm ar sgrïn osgilosgop labordy sy'n creu rhywbeth a elwir yn Effaith Dyfnder Symudol (lle mae ffurfiau cerfluniol yn ymddangos er gwaethaf absenoldeb perspectif, blaenoriaeth a pharalacs yr ystyriwyd yn flaenorol eu bod yn rheoli canfyddiadau o ofod gweledol). Disgrifiwyd "The Analysis of Beauty" yn "subtle, visually sophisticated (and) distinctive and intelligent" gan Art Monthly, ac ysgrifennodd The Guardian "Disinformation combine scientific nous with poetic lyricism to create some of the most beautiful installations around".
![]() |
| Disinformation "Fire in the Eye Test Image" Hawlfraint © Joe Banks 2004 |
Mae'r arddangosfa'n cynnwys "Blackout" – fideo dylanwadol iawn Barry Hale o ddrychau sain monolithig, adfeiliedig, concrid; y fideo "Spellbound" ("An Allegorical Portrait of J Robert Oppenheimer"); a delweddau arbrofol ar gyfer prosiect newydd Disinformation sef "Fire in the Eye", sy’n cael ei greu trwy baentio â thrydan.
Mae Disinformation yn brosiect cerddoriaeth electronig a chelfyddyd arbrofol sydd wedi bod yn weithredol ers 1995. Arloesodd y defnydd o swn electromagnetaidd o'r prif gyflenwad trydan, goleuni, offer labordy, caledwedd diwydiannol a TG, systemau rheilffyrdd, stormydd magnetaidd a'r haul, ayb fel deunyddiau crai. Mae The Wire wedi disgrifio CD newydd Disinformation "Sense Data and Perception" fel "engaging... illuminating, fascinating" ac mae ar gael gan Warp Records, Woolworths a Tesco. Mae'r CD Disinformation vs Strange Attractor "Circuit Blasting" ar fin gael ei ryddhau gan y cwmni recordiau Adaadat.
Oriau Agor Oriel Indigo
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim