
19 Tachwedd 2010 – 15 Ionawr 2011
Cynweliad: Iau 18 Tachwedd 6 – 8pm
Yn gweithio’n bennaf gyda siarcol cywasgedig, mae Thuenissen yn cynhyrchu lluniadau mawr o dai, ffatrïoedd, siopau a warysau anghyfannedd ar hyd a lled Cymru. Mae’r gweithiau hiraethus hyn yn rhoi ymdeimlad o leoedd oedd unwaith yn llawn pobl a phrysur, ond eto mae symudiad y siarcol yn dod â bywyd newydd i’r mannau hyn sy’n anghyfannedd bellach.
![]() |
| Louisa Theunissen, Of Apprehension, Siarcol |
Adleisiau o’r Cof Gwahodd
Adleisiau o’r Cof Gwahodd – Fersiwn PDF 285Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Iau 18 Tachwedd 6.45pm
Sgwrs Artistiaid
Ar noson y cynweliad, bydd artist Louisa Theunissen yn sôn am ei gwaith yng nghyd-destun yr arddangosfa hon.
Llun Cyntaf y Mis
Digwyddiadau blasu min nos ar gyfer oedolion yn cynnig cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o dechnegau creadigol / cyfryngau yn cael eu cynnal fel arfer ar ddydd Llun cyntaf pob mis. Nid oes angen profiad o gelfyddyd. Dylid cadw lle.
Llun 6 Rhagfyr 5 – 7pm
Darganfod Siarcol
Caiff oedolion eu gwahodd i arbrofi gyda siarcol dan arweiniad artist Louisa Theunissen gan ddefnyddio ei harddangosfa fel ysbrydoliaeth.
Mae’r sesiwn cyntaf am ddim yna £3 (£2 gostyngiadau)
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.45pm
Dydd Sadwrn 9.30am – 4pm