Archif - Oriel Indigo

Ymddangosiad - Arddangosfa Graddedigion

16 Mehefin - 7 Gorffennaf 2006

Detholiad o waith myfyrwyr sy'n graddio o'r cwrs gradd mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio NEWI yn Wrecsam.  Mae hwn yn ddetholiad cryf ac amrywiol o waith gan gynnwys cerflunio, peintio, fideo, ffotograffiaeth a darnau gosod.  Mae'r artistiaid wedi defnyddio materion fel atgofion plentyndod, tirweddau gwledig a threfol, diwylliant prynu a phensaernïaeth fel ysbrydoliaeth.

Cynhelir yr arddangosfa am dair wythnos a dangosir detholiad o waith 11 o fyfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf ac ar fin casglu eu Graddau BA (Anrhydedd) Prifysgol Cymru mewn Celfyddyd Gain yr haf hwn.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd
Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

"Un o brif amcanion y cwrs yw meithrin uchelgais pob myfyriwr unigol ac elfen ganolog o athroniaeth y cwrs yw meithrin yr hyn y cyfeiriodd Mondrian ato fel y pethau mwyaf 'gostyngedig' hynny - datblygiad artist!  Un agwedd hanfodol o'r ethos hwn yw addysgu sgiliau technegol, annog unigolion i gymryd risgiau creadigol a datblygu beirniadaethau cyfoes".
Dr Alec Shepley, Darlithydd Celfyddyd Gain

Caiff ymwelwyr eu hwynebu ar unwaith gan yr hyn sy'n ymddangos fel deialog rhwng tair ffrog briodas enfawr - neu ai esgidiau ydynt - neu fagiau?  Dywed yr artist, Rosamund Tomlinson-Bell, bod y gweithiau ‘…yn cael eu hysbrydoli gan sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd gan ferched; pwytho, gweu a chrosio.  Mae peintiadau Bernie Moore yn archwilio ffiniau gweledol 'Mae ein canfyddiad o le yn dibynnu ar gyfeiriadau ffiniau mewnol; ymylon waliau, nenfydau, lloriau a meintiau cymharol rhwng gwrthrychau pell ac agos.  Ond mae'r ffiniau hyn yn ddarfodedig, yn newid yn gyson gyda phob symudiad y llygad a chyfeiriadaeth y pen.'


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn

Mynediad am Ddim

Oriel 103

Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW

01978 290666

10.00am–4.00pm (dydd Llun – dydd Gwener)

yn ôl i'r brig