Archif - Oriel Indigo

Euryl Stevens : Ai dim ond ffantasi yw hyn?

19 Ionawr 2008 – 1 Mawrth 2008

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Ganwyd Euryl yng Nghwm Rhondda ac yno y treuliodd ei phlentyndod. Cymhwysodd mewn peintio a lluniadu yng Ngholeg Celf Birmingham. Enillodd fedal arian yn Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain ac yna ennill ysgoloriaeth i astudio yn Rhufain.

Mae wedi’i chyfareddu gan y corff dynol, yn arbennig merched cnawdol a dynion gwrywaidd, ac mae wrth ei bodd yn darlunio bywydau dychmygol ei chymeriadau bywiol, afieithus. Mae ei gwaith yn dangos ei gwreiddioldeb, unigoliaeth sy’n annibynnol o unrhyw ddylanwad ymwybodol, ac angerdd am fywyd, pobl a hwyl.

Er mai peintio a lluniadu yw ei phrif gyfryngau, mae’r arddangosfa hon yn cynnwys tecstilau ffigurol llachar eu lliw y bu’n canolbwyntio arnynt yn ddiweddar. Mae'r rhain yn ymgorffori peintio ynghyd â gwaith pwytho. Maent yn cyfleu bywyd cyfoes yn ogystal â phlentyndod yr artist yng Nghymru ac yn gwneud sylw cymdeithasol.

Mae Euryl wedi addysgu peintio a lluniadu yng Ngholegau Celf Rochdale ac Amwythig. Mae’n gwerthu ei gwaith, yn arddangos, ac yn rhoi dosbarthiadau dydd a darlithoedd yn helaeth drwy ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

‘Cyfle perffaith i brynu anrheg Nadolig unigryw’.  Mae Canolfan Gelf Wrecsam yn gweithredu cynllun Principality Collectorplan, lle y gellir prynu gwaith celf mewn rhandaliadau heb log.


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn

Mynediad am Ddim

Oriel 103

Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW

01978 290666

10.00am–4.00pm (dydd Llun – dydd Gwener)

yn ôl i'r brig