Oriel Wrecsam - Oriel Indigo Archif

Eva Bartussek
Tŷ Ceffylau

19 Tachwedd 2010 – 15 Ionawr 2011
Cynweliad: Iau 18 Tachwedd 6 – 8pm

Arddangosfa unigol gyntaf o bwys Eva Bartussek, y ffotograffydd o Abertawe, mae Tŷ Ceffylau yn dogfennu plasty oedd yn cael ei ddefnyddio fel cartref a stabl ar yr un pryd. Mae’r delweddau nodedig a gynhyrchwyd gan yr astudiaeth hon yn peri ymdeimlad o’r swrrealaidd a breuddwydiol wrth roi cip ar bwy allai fod yn byw yma trwy wrthrychau gwasgaredig y cartref.

Arddangosfa deithiol o Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe gyda chefnogaeth grant Cyngor Celfyddydau Cymru.

  

Eva Bartussek, Horse House, photograph

Tŷ Ceffylau Gwahodd

Tŷ Ceffylau Gwahodd – Fersiwn PDF 297Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Dysgu

Dysgu

Digwyddiadau ar gyfer yr arddangosfa hon

Iau 18 Tachwedd 6.30pm
Sgwrs Artistiaid
Ar noson y cynweliad, bydd artist Eva Bartussek yn sôn am ei gwaith yng nghyd-destun yr arddangosfa hon.

Addysg Ffurfiol:
Gwneud Marciau Llawn Mynegiant
Archwilio ansawdd siarcol a phastel trwy wneud marciau arbrofol, llinellau trymion a lluniad ystumiol. Cynradd / Uwchradd

Bydoedd Wyneb i Waered Wrth edrych ar Swrrealaeth creu eich byd breuddwydiol wyneb i waered eich hun sy’n cyfuno ffantasi a gwirionedd. Blynyddoedd Cynnar / Cynradd. Addasedig ar gyfer Uwchradd.

Darlun yn werth mil o eiriau.
Archwilio sut all delweddau brocio’r gwyliwr i’n ofyn llawer o gwestiynau. Gan ddefnyddio’r arddangosfa fel ysbrydoliaeth, creu eich celfwaith eich hun sy’n cael y gynulleidfa i feddwl. Defnyddio technegau lluniadu, paentio a gludwaith. Uwchradd / Colegau.

Cyfosodiad mewn Celfyddyd
Ystyriwn y cwestiynau a ofynnwyd gan artistiaid sy’n defnyddio cyfosodiad fel offeryn. Caiff cyfranogwyr eu hannog i ystyried enghreifftiau o gyfosodiad yn hanesyddol mewn celfyddyd. Mae’r gweithdy’n annog trafodaeth anffurfiol, ac yna bydd cyfranogwyr yn creu eu celfwaith cyfosodol eu hunain. AS / A2 / Colegau


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

Dydd Llun – Dydd Mercher a Dydd Gwener 9.30am – 6.45pm
Dydd Iau 12.00pm – 6.45pm
Dydd Sadwrn 9.30am – 4.00pm

yn ôl i'r brig