20 Ionawr – 3 Mawrth 2006
Mae’r arddangosfa hon yn dathlu gyrfa sy’n estyn 40 mlynedd pan ddechreuodd Sue Carney arni fel myfyrwraig y celfyddydau yn Wrecsam. Aeth ymlaen i wneud gradd yn Newcastle a daeth y ferch gyntaf i gael ei derbyn ar gyfer gradd meistr yn y Coleg Celf Brenhinol.
Yn 1970, yn ystod seibiant o’i hastudiaethau yn Newcastle, adeiladodd Sue Carney gerflun a oedd yn cynnwys 2000 o unedau papur wedi eu plygu. Bryd hynny, roedd hyn yn ateb ymarferol i’w diffyg lle a deunyddiau. Ond byddai’n ffurfio methodoleg weithio a’r defnydd o bapur fel ei phrif ddefnydd.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
Ers 2004, ar ôl blynyddoedd o weithio ar bapur, mae wedi dychwelyd i’r dechneg blygu wreiddiol, yn y lle cyntaf fel ateb i broblem gyfansoddiadol.
Mae’r arddangosfa sy’n edrych yn ôl ar ei harferion dros 35 mlynedd yn dogfennu ei pherthynas waith hir â phapur a’r dychweliad i’r dechneg blygu fel ffordd o archwilio’r pethau sydd wedi llywodraethu ei gwaith bob amser, sef holi gwerth a hierarchaeth deunyddiau ac addurniadau a chwilio am arfer hybrid gwir sy’n caniatáu i estheteg dwyrain a gorllewin, dyn a dynes i gyd-fodoli. Mae’r lleoliadau a ddewiswyd ar gyfer y sioe’n cyfateb i leoedd y mae’r artist wedi byw a gweithio ynddynt neu sydd wedi dylanwadu ei phenderfyniadau.
Ar ddiwedd y sioeau Prydeinig, mae wedi cael cyfle i arddangos yn Oriel Sumuhka, prif oriel gyfoes Bangalore, a gweithio gyda myfyrwyr MA yn y Celfyddydau Cain yn Bangalore i gynhyrchu arddangosfa yn Adeilad Celfyddydau Chitrikala, Bangalore.
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim