Archif - Oriel Indigo

Giacomo Brunelli: Anifeiliaid

Ionawr 24 – Chwefror 28 (Cip Ymlaen Llaw Gwener 23 Ionawr 7-9pm)

Arddangosfa deithiol o The New Art Gallery Walsall.

Mae artist Eidalaidd Giacomo Brunelli’n creu ffotograffau hynod o anifeiliaid, byw a marw fel ei gilydd, gan ddefnyddio camera Miranda Sensomat yn dyddio o 1968 oedd unwaith yn eiddo ei dad. Caiff ei ffotograffau eu tynnu wrth iddo gerdded bob bore pan fydd y goleuni ar ei orau, a’i wrthrychau yw’r rhai y daw ar eu traws ar hap wrth gerdded.

Giacomo Brunelli, Untitled, Gelatin silver print. Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd
Giacomo Brunelli, Untitled, Gelatin silver print. Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd
Giacomo Brunelli, Untitled, Gelatin silver print. Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Yna caiff y delweddau du a gwyn hyn eu hargraffu â llaw mewn ystafell dywyll dros dro gan greu delweddau dramatig, grymus a cyfareddol sydd weithiau’n ddoniol ac weithiau’n annifyr ac sydd eto’n cynnig newid braf yn yr oes hon o dechnoleg ddigidol.


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn

Mynediad am Ddim

yn ôl i'r brig