Archif - Oriel Indigo

Glyn Hughes - Golwg yn Ôl

29 Hydref - 10 Rhagfyr 2005.

Ganwyd Glyn ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, yn 1931 a symudodd ei deulu i’r Fflint yn 1935, lle’r aeth i’r ysgol gynradd leol ac yna i Ysgol Ramadeg Treffynnon.

Aeth i Bretton Hall yn Swydd Efrog i astudio yn 1951. Wedi hynny, aeth i ddysgu yn Castleford a Holme Firth cyn symud i ddysgu celf a drama yn nwyrain Llundain yn y 1950au cynnar. Derbyniodd swydd yn yr ysgol iau yn Nicosia, Cyprus yn 1956 a chymerodd seibiant o Gyngor Sir Llundain. Mae wedi byw a gweithio yng Nghyprus ers hynny.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Dechreuodd ei arhosiad yng Nghyprus drwy baentio'r dirwedd a'r tai brics llaid, gan deithio i'r pentrefi ar fws ac aros ynddynt pan allai. Ond roedd yn amser anodd ac aflonydd wrth i Gyprus frwydro am ei hannibyniaeth o Brydain ac roedd sawl cyrffyw.

Roedd yn allweddol yn agoriad yr oriel gelf gyfoes gyntaf yng Nghyprus. Agorodd Apophasis (sef "Penderfyniad") yn gynnar yng ngwanwyn 1960 yn Nicosia. Ym mis Medi 1960, ymunodd Glyn â staff yr ysgol Saesneg yn Nicosia i gynnal clwb trafod i bobl ifanc - y cyntaf o’i fath yng Nghyprus – ei enw oedd y 63 Club.

Yn ei waith ei hun, parhaodd Glyn i ddefnyddio lliwiau’r ddaear ond aeth ei beintiadau’n fwy haniaethol a phersonol. Arddanoswyd y rhain yn y New Vision Centre Gallery yn Llundain yn 1964.

Ar ôl y trafferthion gwleidyddol yn Nghyprus yn y 1960au hwyr, aeth Glyn i ddysgu’n rhan-amser. Er mwyn ennill digon o arian, daeth yn feirniad ffilmiau ar gyfer y Cyprus Mail, darllenodd y newyddion a siaradodd am gelfyddyd ar CyBC (radio Cyprus). Arhosodd yng Nghyprus yn ystod haf trychinebus 1974 a dechreuodd golofn ar gyfer y Cyprus Mail o’r enw The Cultural Landscape gan ei fod yn teimlo na fyddai gwlad â phresenoldeb celfyddydol cryf yn methu. Heddiw, fel golygydd celfyddydol y Cyprus Weekly, mae’n dal i ddweud mai ei nod yw annog yn hytrach na beirniadu ei gyd-artistiaid.

Yn 1975, dechreuodd Glyn berthynas waith hir gyda’r cyfarwyddwr o hen ddwyrain yr Almaen, Heinz-Uwe Haus, ac mae’r berthynas yn dal i ffynnu heddiw. Er ei fod wedi gweithio ar sawl cynhyrchiad theatr mewn sawl gwlad a gyda sawl cyfarwyddwr, nid oes diwrnod yn mynd heibio heb iddo weithio ar gynfas neu ddarlun. Mewn adegau o argyfwng, naill ai yng Nghyprus neu mewn sefyllfaoedd anodd y mae'n ymwybodol ohonynt mewn rhannau eraill o'r byd, mae’n paentio â dwysedd a lliwiau llachar.

Yn 1994 cynrychiolodd Gyprus ym Mhumed Arddangosfa Eilflwydd Cairo.


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim

yn ôl i'r brig