18 Hydref - 29 Tachwedd 2008
Mynediad am ddim i’r arddangosfa newydd o gelfyddyd gyfoes yn Oriel Wrecsam (Canolfan Gelfyddydau Wrecsam gynt) gan arlunwyr Cymreig o fri, Iwan Bala a Tim Davies.
Ochr yn ochr â gweledigaeth foel ffurfiol a manwl ond telynegol Tim Davies mae iaith weledol rydd a garw Iwan Bala.
Mae’r ddau arlunydd wedi creu gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa gyda dolenni cyswllt rhwng Cymru a Lerpwl. Mae’r gwaith yn cynnwys darnau a gomisiynwyd i gyd-fynd â statws Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop.
Comisiynwyd catalog ar gyfer yr arddangosfa fydd yn mynd ymlaen i ymweld â mannau eraill yn 2009/10.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
Dyfyniadau o’r catalog:
I mi, wedi fy ngeni a’m magu ger y Bala, Lerpwl oedd dinas ryfeddol siopa adolig, gyda’i siopau adrannol gwych a grisiau symudol, y twnnel trawiadol
dan afon Mersi, ei dwy eglwys gadeiriol ac (wrth i mi brifio) Oriel Gelf Walker, pêldroed, Anfield, ac un wythnos fythgofiadwy a dreuliais ym Mhrifysgol Lerpwl mewn Gŵyl Ieuenctid Gristionogol (gyda milo gynadleddwyr o bob rhan o’r byd) pan oeddwn yn ddau ar bymtheg. Lerpwl, i bob diben oedd ‘prifddinas Gogledd Cymru’…
… Dyma rai themâu y bûm yn cnoi cil arnynt, yn tynnu lluniau ohonynt ac yn eu paentio, a’u cydgrynhoi fel ‘Lob Sgows’ sy’n ymateb gennyf, nid yn gymaint
i Lerpwl heddiw, ond i Lerpwl fy nychymyg fel plentyn. Iwan Bala. Medi 2008
Mae’r gweithiau yn yr arddangosfa hon yn datblygu rhai syniadau y bûm yn gweithio arnynt dros yr ychydig flynyddoedd aeth heibio, gan gynnwys ymatebion i’m hymweliad diweddar â Lerpwl…
… Pan oeddwn yn Lerpwl chwiliais am gofgolofn ryfel 1905 Syr William Goscombe John yng Ngerddi St. John yng nghanol y ddinas. Roeddwn eisoes wedi gweithio gyda Drummer Boy Goscombe John yn yr Amgueddfa
Genedlaethol yng Nghaerdydd, yn ail ymweld â sain y drwm wrth i’r bachgen ‘daro galwad cyffrous a llawen i’r gad’. Yno yn Lerpwl saif ei gydymaith, wedi’i ddal ar hanner trawiad. Mae’r gofgolofn hon yn talu teyrnged i’r rhai hynny a
gollwyd mewn rhyfelgyrchoedd yn Byrma, De Affrig ac Affganistan, yr olaf rhwng 1878 a 1880. Eto dros ganrif yn ddiweddarach rydym yn ymladd rhyfelgyrch arall yn Affganistan. Erys gwrthdaro. Ni yn eu herbyn nhw. Mae yn ein gwaed. Meddyliais am John Lennon ifanc a’i gyfeillion efallai’n cerdded heibio, hyd yn oed yn loetran o gwmpas y Drummer Boy hwn, yn dal ar hanner trawiad yn y 1950au, fel y gwnâi pobl ifanc – yn sgwrsio ac yn yfed – yn ystod fy ymweliad yng ngwanwyn 2008. Daeth Lennon yn arwr y dosbarth gweithiol o fath arall, gan ysgrifennu geiriau fel ‘imagine all the people living life in peace’, ‘give peace a chance’ ac efo Yoko Ono ‘making love not war’…
… You Me, Us Them. (DVD) Mae’r fideos uniongyrchol hyn yn edrych ar symlrwydd iaith sy’n cuddio’r polaredd garw rhwng dau safbwynt – dewisiadau. Mae’n ddewis rhyngoch chi neu fi a ni neu hwy. Mae’n fater o ofn yr ‘arall’.
Tim Davies. Medi 2008
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim