22 Gorffennaf – 2 Medi 2006
Yn Y Dyddiau Dilynol, mae’r artist Almaenig, Johannes Hepp, yn ymweld â safleoedd o amgylch y byd sydd wedi eu difrodi gan gyrchoedd brawychiaeth ac sydd wedi’u greddfu yn nychymyg y cyhoedd mewn modd annileadwy trwy sylw eang gan y cyfryngau. Fodd bynnag, trwy gyrraedd y safleoedd ond ychydig oriau ar ôl i’r erchyllter ddigwydd [Tel Aviv] neu 23 o flynyddoedd yn ddiweddarach [Munich], nid yw’n bwriadu dal y difrod ond yn hytrach y bobl gyffredin sy’n byw eu bywydau beunyddiol yn yr ardaloedd a oedd wedi’u difrodi. Mae bob amser yn canolbwyntio ar fywyd wedi hynny a’r risgiau y mae pobl yn eu cymryd bob dydd; megis teithio ar drên eto yng Ngorsaf Kasumigaseki yn Tokyo neu fynd i ailagoriad tafarn Mike’s Place yn Tel Aviv dim ond tri diwrnod ar ôl ffrwydrad erchyll gan hunan-fomiwr.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
Crëwyd pob un o’r delweddau hyn yn ddigidol, gan ddefnyddio hyd at ugain o sleidiau ffurf ganolig a gymerwyd gan yr artist o’r un olygfan dros gyfnod o ychydig oriau. Trwy wneud hyn, maent yn darlunio sawl digwyddiad, sy’n ymdoddi ennyd pendant y cyrchoedd brawychiaeth a threigl amser i’w gilydd mewn modd trosiadol. Mae’r delweddau ataliedig ond cythryblus hyn, a grëwyd mewn fformat panoramig er mwyn atgyfnerthu’r naratif parhaus, yn cwestiynu ein dealltwriaeth o drais diwahaniaeth ac yn dyst i gyfnod sy’n dod yn un hanesyddol: cyfnod o frawychiaeth.
Cymerodd Hepp ei deitl o’r ffilm The Day After o 1983, sef stori graffig am y dyddiau cyn, yn ystod ac ar ôl ymosodiad niwclear ar yr UDA. Gan osgoi unrhyw syniadau o wrthrychedd yn fwriadol, nid yw Y Dyddiau Dilynol yn ceisio portreadu unrhyw rithganfyddiadau o realiti, ond yn hytrach, mae’r gwaith yn anelu at godi ymwybyddiaeth o’r berthynas symbiotig rhwng brawychiaeth a’r ocsigen o gyhoeddusrwydd sy’n cael ei greu gan sylw yn y cyfryngau - lle mae pobl ddiniwed yn darparu’r sicrwydd cyfochrog.
Ganed Johannes Hepp yn Yr Almaen yn 1969. Cafodd ei frawychu gan erchyllterau’r rhyfel sifil tra’r oedd yn aros yn Brazzaville (Congo) ar ddechrau’r 1990au a dechreuoedd dynnu ffotograffau. Dechreuodd ei brosiect Y Dyddiau Dilynol yn 2002.
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Oriau Agor Oriel Indigo
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim