Archif - Oriel Majenta

22 Mawrth – 26 Mehefin

Lansio

Unwaith eto, rydym yn falch o groesawu’r arddangosfa deithiol, Lansio, sef dathliad o dair arddangosfa gysylltiol a welwyd mewn amryw leoliadau o gwmpas Wrecsam yn ystod cyfnod ailwampio’r Llyfrgell a chau ein hail oriel arddangos. Y tair arddangosfa yw:

Photomission

Prosiect dan arweiniad artistiaid, a ysbrydolwyd gan brosiect Snap-Shot-City ar y we fyd-eang. Arddangosfa yw hon o ffotograffau a dynnwyd ac a ddewiswyd gan bobl ifanc yn y gymuned leol.

Shorts

Casgliad o ffilmiau byr a grëwyd gan bobl ifanc mewn amrywiol weithdai gwneud ffilmiau yn Oriel Wrecsam. Seiliwyd y ffilmiau ar storïau byrion a’u cynhyrchu trwy ddefnyddio animeiddiad atal symudiad a ffotograffiaeth datguddiad hir.

Yr Hunan fel Gwrthrych

Tynnwyd yr hunanbortreadau ffotograffig hyn mewn gweithdy yn Oriel Wrecsam mewn ymateb i’r arddangosfa allan o’r cyffredin / anghyffredin: ffotograffau siapaneaidd cyfoes. Gofynnwyd i gyfranogwyr greu portreadau ohonynt eu hunain yn defnyddio gwisgoedd a chelfi. Mewn rhai achosion, mae’r delweddau’n adlewyrchu agwedd ar wir gymeriad yr unigolyn, ond mewn rhai eraill mae’r cymeriadau’n ddychmygol, gyda’r wisg yn gweithredu fel cuddwisg.

Mae’r arddangosfeydd hyn yn cynnwys gwaith a grëwyd gan blant a phobl ifanc Wrecsam.

Shorts
Darn paratoadol ar gyfer ffilm a gynhyrchwyd yn ystod gweithdy Ffilmiau Campwaith

Ffotograffau a gynhyrchwyd gan Ganolfan Pobl Ifanc Bryn-teg

Yr Hunan fel Gwrthrych, Jordan

A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Majenta

Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.45pm
Dydd Sadwrn 9.30am – 4pm

yn ôl i'r brig