1 Medi 13 Hydref 2007
Arddangosfa o lyfrau artistiaid cyfoes, gan gynnwys artistiaid o’r UDA ac Awstralia.
Gwneir llyfrau artistiaid yn unigol, ac fel arfer byddant yn unigryw neu mewn cyfresi byr. Mae iddynt elfen gartref ond maent wedi eu gorffen yn rhagorol ac yn aml wedi eu llunio’n broffesiynol. Mae’r llyfrau yn yr arddangosfa hon yn cynnwys gwneud printiau, darlunio a phwytho ac maent yn amrywio yn eu ffurf - rhai wedi eu rhwymo, rhai fel consertina, rhai’n plygu at allan a rhai ar y wal. Mae artistiaid hefyd yn dangos elfennau o arferion eraill - peintiadau, darluniau a phrintiau.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
‘Mae gwneud lluniau yn weithgaredd hynod o foddhaol a chymhellol. Mae’r syniad yn esblygu, mae’n llifo i’r ymwybyddiaeth a thros amser mae’n dechrau ffurfio yn y meddwl. Yna daw’r foment arbennig - y chwarae gyda darnau o bapur i weld pa ffurf sydd fwyaf addas yn emosiynol ac yn weledol. I mi mae llyfr yn ddistylliad o brofiad gydag elfen o gofnodi rhywbeth na fydd yn bodoli nac yn digwydd byth eto.’ Noelle Griffiths
Mae cyfres o weithdai yn mynd law yn llaw â’r arddangosfa. Cysylltwch â Honor Pedican ar 01978 292641 am fanylion pellach.
Mae llyfryn bychan gyda thraethodau gan Sarah Bodman, Cymrawd Ymchwil llyfrau artistiaid ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a chan yr artist Noelle Griffiths yn cyd-fynd â’r arddangosfa hon.
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW
01978 290666
10.00am–4.00pm (dydd Llun – dydd Gwener)