29 Medi – 21 Hydref 2006
Yn 1771, teithiodd Syr Watkin Williams Wynn a’r artist Paul Sandby o gwmpas Gogledd Cymru. Gwnaeth Sandby, cynhyrchwr printiau enwog, frasluniau ar y daith ac, yn 1776, cyhoeddodd gyfres o acwatintau yn seiliedig ar y brasluniau. Yn dwyn y teitl XII Views in North Walesdyma’r cyhoeddiad cyntaf a dynnodd sylw prydferthwch Gogledd Cymru at y cyhoedd ehangach.
Mae Luci Melegari, cynhyrchwr printiau enwog arall, wedi dilyn taith Sandby ac wedi ailddehongli’r golygfeydd, trwy ddefnyddio dulliau cyfoes. Mae gwaith Luci’n ymwneud â phrofiad personol o fewn y dirwedd, dehongliad o’r golygfeydd, yn hytrach na dal manylion topograffegol. Mae ei phrosesau’n cynnwys elfen o orffeniad llaw a phrintiau unigryw.
![]() |
| Copyright reserved by the artist |
Mae gwaith Sandby, sy’n defnyddio acwatintau, yn canolbwyntio ar ddaeareg y dirwedd er bod yna elfen o ‘ryddid artistig’ yn rhai o’r golygfeydd. Mae’r golygfeydd yn hawdd eu hadnabod heddiw er bod llawer o’r cefn gwlad wedi newid yn fawr. Daliwyd Castell Caernarfon dan olau lleuad ar gyfer print Sandby ond heddiw caiff ei oleuo gan oleuadau artiffisial gyda’r nos. Yr unig arwydd o amser yn symud yn ei flaen yn Abaty Glyn y Groes yw’r erydiad i’r strwythur.
Mae’r arddangosfa neilltuol hon, a gynhelir ar y cyd ag arddangosfa Sandby yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn gyfle prin i gymharu gwaith y ddau artist sy’n gweithio mewn genre debyg ond sy’n cael eu gwahanu gan ddau gan mlynedd a safbwyntiau tra unigol.
![]() |
| Copyright reserved by the artist |
Ganwyd Luci Melegari yn Rhuthun i rieni Eidalaidd. Astudiodd Gelfyddydau Cain yn Loughborough, cyn gwneud M.A. mewn gwneud printiau yng Ngholeg Polytecnig Manceinion. Mae’n byw a gweithio yng Ngogledd Cymru.
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Oriau Agor Oriel Indigo
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim