18 Ionawr - 29 Ebrill 2006
Yn ystod haf 1975 daeth 15 o artistiaid o ardaloedd Wrecsam a Chaer at ei gilydd i ffurfio grŵp o’r enw ‘Group 75’ a chynhaliasant eu harddangosfa gyntaf yng Nghanolfan Gelf Wrecsam. Mae’r aelodaeth wedi newid ychydig dros y blynyddoedd ond, yn yr arddangosfa hon, mae Group 75 yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed.
Mae arddangosfeydd Group 75 yn gyfryngau cymysg, gan gynnwys peintiadau olew a gouache, cerfluniau, ffotograffiaeth a delweddau digidol a gludwaith. Mae arddangosfeydd Group 75 wedi teithio i’r UDA a De Affrica ac mae artistiaid o’r ddwy wlad wedi arddangos gyda’r grŵp yn y DU. Mae’r artistiaid gwadd wedi cynnwys Thembinkosi Goniwe a Nkoali Nawa, y ddau o Dde Affrica.
Thembinkosi Goniwe fydd yr artist preswyl yng Nghanolfan Gelf Wrecsam rhwng 17 a 24 Mawrth 2006.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Oriau Agor Oriel Indigo
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim