Archif - Oriel Indigo

Passport, Ticket & Sketchbook - Anthony Lysycia

30 Ebrill – 11 Mehefin 2005

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Mae’r arlunydd Anthony Lysycia yn barod i fynd â chi ar daith. ‘Fel y symuda’r ddaear, newid wna ein dirnadaeth hefyd.

Mae’r arddangosfa ddiweddaraf hon gan Anthony Lysycia yn defnyddio ei brofiadau personol yn uniongyrchol fel arlunydd i archwilio’r newid meddwl o ran dirnadaeth wrth deithio’r byd. Mae ei ysbryd hael yn caniatáu i ni’r gwyliwr weld y tu ôl i’w newid meddwl sydd weithiau’n fregus, ond hefyd yn ysbrydoledig a grymus wrth iddo ymdoddi’r ddirnadaeth gyfnewidiol hon gyda defnydd uniongyrchol ei dalent ac egni rhyfeddol.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Bydd diwylliannau sy’n amrywio’n ddirfawr yn symbylu’r synhwyrau ac yn tanio egni’r arlunydd. Bydd yn cynnig ateb i anghydfod mewnol drwy arddangos polaredd a chydbwysedd perthynas yr arlunydd â man arbennig. Cyn gynted ag y gwelwn harddwch, gallwn ddeall hagrwch. Nid oes nos heb ddydd a ni amrywia’r tymhorau heb amrywiad. Mae teithio wedi chwarae rôl allweddol yng ngwaith yr arlunydd erioed, gan ei alluogi i brofi ac o ganlyniad gofnodi’r amgylchedd. Weithiau fe wneir y cofnod hwn er mwyn cofnodi’r ffaith syml ‘ei fod yno’, ond gan amlaf fe’i defnyddir yn ddiweddarach fel adnodd cyfoethog ar gyfer gwaith yn y stiwdio neu gerfiad mawr o garreg.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Mae ei lyfr brasluniau personol, sydd wedi eu rhwymo a’u llenwi gan Anthony ers ei ddyddiau collage cynnar yn darparu delweddau gweledol ar ffurf dyddiadur arlunydd sydd yn eu tro’n darparu cnewyllyn i nifer o’i themâu cerfio pren a charreg. Bydd eu ddyflrluniau yn cael eu creu a’u hysbrydoli ar leoliad bob amser a byddant felly’n bywiogi’r synnwyr o bresenoldeb a dirnadaeth drwy lygad arsylwadol craff. Defnyddir cerfiadau pren i arddangos newid cyfeiriad bywyd a defnyddia elfennau’r ddaear (pren, carreg, pigment lliw) i greu toriadau pren gyda phrintiau llaw, rhai ohonynt wedi eu gwneud o ddodrefn ‘cartref’.

Yn 2003 comisiynwyd Anthony gan dyfrffyrdd Prydain i lunio cyfres o chwe cherfiad mawr o garreg i adrodd stori pont ddŵr Pontcysyllte a’r bobl ryfeddol a oedd yn gweithio yn yr ardal gyfagos. Gellir gweld y cerfiadau hyn o amgylch Basn Trefor yn awr. Mae’r arddangosfa hon yn rhan o ddathliadau’r deucanmlwyddiant i’w cynnal yn ystod haf 2005.

Arddangosiad Preifat Dydd Mawrth 3 Mai 6 –8pm
Bydd yr arddangosfa’n cael ei hagor gan Steve Brake, Swyddog Celf, Cyngor Sir Ddinbych.


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim

yn ôl i'r brig