9 Mai – 17 Mehefin
Amcan y gystadleuaeth yw dathlu bywyd diwylliannol a thirwedd Bwrdeistref Sirol Wrecsam ledled y flwyddyn trwy gyfres o ffotograffau.
Gwahoddwyd lluniau gan ffotograffwyr amatur a phroffesiynol a defnyddiwyd y tymhorau fel ysbrydoliaeth. Rhennir y gystadleuaeth yn bedair rhan – gwanwyn, haf, hydref a gaeaf – a chynigir gwobr o £100 i’r llun gorau ym mhob categori. Mae’r llun gorau yn y gystadleuaeth gyfan sef ‘Rhew ar y Berwyn’ gan Geraint Wyn Jones wedi arwain at wyliau i ddau i’n gefeilldref Markischer Kreis yn yr Almaen.
Arddangosir y gwaith yn Oriel Majenta yng Nghanolfan Gelf Wrecsam 9 Mai – 17 Mehefin yn ystod Gŵyl Gelfyddydau Wrecsam 2006.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Oriau Agor Oriel Majenta
9.00am - 7.00pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.00am - 4.00pm Dydd Sadwrn