Oriel Wrecsam - Oriel Indigo Archif

Gwerthfawr: Adennill Celf a Chrefft

21 Ionawr – 19 Mawrth 2011
Cynweliad Iau 20 Jan 6-8pm

Pethau gwerthfawr o adnoddau gwerthfawr – mae popeth yn yr arddangosfa hon yn wahanol i’r disgwyl. Gan gymryd agwedd arloesol dros ben at grefftau cyfoes, comisiynwyd wyth o artistiaid a gwneuthurwyr i greu gwaith newydd, a deg i arddangos gwaith presennol. Gwerthfawr yw’r canlyniad, yn dangos crefftau cyfoes o’r safon uchaf, a gynhyrchwyd o ddeunyddiau a daflwyd a’u hystyried yn ddiwerth mewn cyd-destun gwahanol.

Donya Coward, Pioden, © James Pike Photography
Andrew Mockett, Yr Hynafiad, a’r teulu, and family © James Pike Photography
Mark Oliver, Gwyfyn Cyfeiriol, Lepidoptera Britannica © James Pike Photography
Jasmine Pradissitto, E8 – paentiad mewn goleuni a phlastig © James Pike Photography

Mae’r darnau’n gelfyddyd ac nid yw bob amser yn amlwg sut ddechreuodd y deunyddiau eu bywyd. Caiff gwastraff papur a deunyddiau eu gweddnewid; caiff tirluniau eu gwneud o rannau cyfrifiadur; caiff llyfrau, rhannau o ddodrefn, caniau diod i gyd eu hadennill a’u hail-wneud. Gyda’u gwaith ysbrydoledig, mae’r gwneuthurwyr yn adlewyrchu pob agwedd ar grefftau cyfoes ym Mhrydain heddiw.

Arddangosfa deithiol o Amgueddfa ac Oriel Gelf Hove

     

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Dysgu

Digwyddiadau ar gyfer yr arddangosfa hon

Llun Cyntaf y Mis
Digwyddiadau blasu min nos ar gyfer oedolion yn cynnig cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o dechnegau creadigol / cyfryngau yn cael eu cynnal fel arfer ar ddydd Llun cyntaf pob mis. Nid oes angen profiad o gelfyddyd. Dylid cadw lle.

Llun 7 Mawrth 5-6.45pm
Gwrthrychau Gwerthfawr
Bydd cyfranogwyr yn archwilio’r arddangosfa Gwerthfawr ac yn ystyried syniadau o bethau ‘annwyl’ a ‘hoff’ wedi cael bywyd blaenorol. Yna rhoi bywyd creadigol newydd i lyfrau a roddwyd heibio trwy wneud eu ‘gweithiau llyfr’ 3D cywrain eu hunain i fynd adref. Mae’r sesiwn cyntaf am ddim yna £3 (£2 consesiynau

Addysg Ffurfiol
Fy Ngwneud Arbennig – gweithdy ar gyfer y Cyfnod Sylfaen sy’n defnyddio’r arddangosfa hyfryd a gwirioneddol hudol Gwerthfawr i danio dychymyg plant a hybu ymatebion 3D creadigol, gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a ailgylchwyd a thomen o gymorth. Cofiwch ddod â ‘dillad chwarae’ / trosddillad rhag ofn i’r creu fynd dros ben llestri!

Blynyddoedd Cynnar
Cerflunio Tan Gamp – gweithdy hwyliog a ysbrydolwyd gan yr arddangosfa hyfryd a gwirioneddol hudol Gwerthfawr. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i archwilio gweithiau 3D, o Artistiaid Cymhwysol medrus dros ben, a gwneud eu hymatebion 3D unigryw eu hunain, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a ailgylchwyd. Cofiwch ddod â ‘dillad chwarae’ / trosddillad rhag ofn i’r creu fynd dros ben llestri.

Babanod / Plant Iau

Tudalennau Gwerthfawr
Bydd myfyrwyr yn archwilio’r arddangosfa Gwerthfawr ac ystyried syniadau o bethau wedi cael bywyd blaenorol ac ‘ailgylchu’. Yna rhoi bywyd creadigol newydd i lyfrau a roddwyd heibio trwy wneud eu ‘gweithiau llyfr’ 3D cywrain eu hunain i fynd adref. Wedi’i ysbrydoli gan waith Betty Pepper a Margaret Marks yn yr arddangosfa Gwerthfawr. Gall themâu cwricwlwm ysbrydoli darnau terfynol .

Plant Iau / Uwchradd

Gwrthrychau Gwerthfawr
Bydd myfyrwyr yn archwilio’r arddangosfa Gwerthfawr ac ystyried syniadau o bethau ‘annwyl’ a ‘hoff’ wedi cael bywyd blaenorol ac ymgyrchoedd ailgylchu. Yna rhoi bywyd creadigol newydd i bethau / deunyddiau a daflwyd, i greu celfwaith cain, unigryw i fynd yn ôl i’r coleg / prifysgol.

Colegau / Prifysgol

Cynnig Arbennig 3 am 2 i grwpiau addysg ysgol / coleg / arall
Archebu dau weithdy 2011 ar gyfer eich myfyrwyr, cyn Gwyliau’r Haf, i gael trydydd gweithdy’n rhad ac am ddim*. Arbed £45 (ar sail 3 dosbarth o 30, yn derbyn gweithdy safonol o 2 awr).
*Sylwch: Telerau ac amodau perthnasol.

yn ôl i'r brig