Archif Oriel Indigo

Re:

Gwaith gan fyfyrwyr Celfyddyd Gain blwyddyn olaf yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru, NEWI

14 Mehefin - 12 Gorffennaf 2008

Gwaith gan fyfyrwyr Celfyddyd Gain blwyddyn olaf yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru, NEWI.

Artistiaid: Lindsay Clarke, Jan Hadfield, Sue Mann, June MacHenry, Hayley Parfitt, Rachel Roberts, Fabienne Russell, Sarah Scott, Carol Spencer, Laura Taylor, Kathy Watson.

Bob blwyddyn mae Canolfan Gelf Wrecsam yn arddangos detholiad o’r hyn yr ydym ni’n ei ystyried fel y gweithiau mwyaf diddorol o’r Sioeau Gradd Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru. Yn wahanol i’r blynyddoedd a fu, penderfynason wahodd aelodau o’r tîm addysgu yn yr ysgol gelf i guradu’r sioe eu hunain, a arweiniodd at agwedd wahanol iawn.

Detholwyd gwaith sy’n nodweddiadol o’r hyn sy’n mynd â bryd nifer sylweddol o fyfyrwyr yn awr, gyda’r amcan o roi cipolwg ar natur arfer stiwdio ac ymdriniaeth gymdeithasol sy’n gyffredin o fewn y cwrs ar hyn o bryd.   

Mae Re: yn ffurfio rhagdoddiad i air a roddir gan bob artist sy’n rhoi ciplowg i ni ar natur eu proses o weithio ac yn arbennig y ffordd y mae’r gweithiau wedi cael eu gwneud, eu hailwneud, eu gosod, eu hailfeddwl a’u hailosod, yn aml o ganlyniad uniongyrchol i gyfranogiad y cynulleidfa o fewn mannau arddangos a phrosiect yr ysgol gelf ei hun.

Yr hyn sy’n cysylltu’r artistiaid yw diddordeb yn y broses y maent yn adlewyrchu arni trwy ffurfiau amrywiol o ddogfennaeth. Mae’r ddogfennaeth yma yn cynnig golwg i ni ar esblygiad y gwaith, y penderfyniadau a wnaed, a hefyd y strategaethau a ddefnyddiwyd wrth ymdopi â’r ansicrwydd sydd yn rhan o bob arfer Celfyddyd Gain. Mae’r gweithiau eu hunain yn cynrychioli gwaddod y gweithredu a chanlyniad corfforol y broses greadigol o wneud penderfyniadau


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn

Mynediad am Ddim

yn ôl i'r brig