26 Ebrill - 7 Mehefin 2008
Mae gwaith Chris Oakley’n ymwneud â sut mae’r cyfryngau a thechnoleg yn lliwio’n profiadau o’r byd. O ymyrraeth y camcorder ym mhrofiad llygad y ffynnon yr ymwelydd i adroddiadau ffuantus teledu ‘realiti’, mae’r gweithiau i gyd yn archwilio’n hangen am brofiad wedi’i gynhyrchu, ei addurno a’i ddilysu fel cyfryngau i’w llyncu a’u taflu ymaith.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
Yn y gwaith Sight/Seeing mae Oakley’n defnyddio hen ffilm a dynnwyd yng nghyswllt saffari modern yn Ne Affrica. Mae’n disgrifio’r gwaith “yn rhannol yn ffilm deithio ddystopiaidd ac yn rhannol yn rhaglen ddogfen ar fywyd gwyllt”. Mae’n teimlo bod twristiaeth wedi gwneud byd natur yn nwyddau, yn seiliedig ar brofiad o sioe, sy’n cael “ei lyncu drwy lens camcorder teuluol…..Mae’r gweld yn dod yn ail i’r recordio.” Mae ei waith newydd Exchanges, a arddangosir yma am y tro cyntaf, yn ymchwilio i sgwrsio personol ar y ffôn, a sut mae ein rhyngweithio’n cael ei addasu gan y cyfrwng. Mae’n disgrifio’r gwaith hwn fel “rhaglen ddogfen ar fywyd gwyllt y bod dynol cyfoes”, gan ddefnyddio technegau a fenthyciwyd o wneud ffilmiau dogfen i greu ffuglen o recordiau o fywyd.
Mae gwaith Chris wedi’i arddangos yn rhyngwladol ac yn y pum mlynedd diwethaf mae wedi’i weld mewn arddangosfeydd a gwyliau ledled y byd. Mae ei fideo The Catalogue, a welir yma am y tro cyntaf yng Nghymru, wedi ennill gwobrau yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Mosgo a’r wobr gyntaf am gelf fideo yn Videoformes 2006, Ffrainc. Ar hyn o bryd mae’n cwblhau gwaith a seiliwyd ar gyfleusterau ymchwil niwclear yn y DU. Mae i fod i gael ei ddangosiad cyntaf yn Llundain yn yr hydref.
Estynnir gwahoddiad cynnes i chi i Gynweliad o’r arddangosfa hon
Agorir yr arddangosfa gan yr artist am 2.30pm
Mynediad am ddim
Gwin a Diodydd Ysgafn
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim