Fel rhan o Wyl Wyddoniaeth Wrecsam, bydd Canolfan Gelf Wrecsam (a leolir yn yr un adeilad â Llyfrgell Wrecsam) yn cynnal arddangosfa peintiadau yn seiliedig ar wyddoniaeth tyfiant celloedd.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
Mae’r arlunydd a’r darlithydd Michael Evans o Goleg Prifysgol Northampton
wedi ymuno â’r microbiolegydd Dr PJ Hill o Brifysgol Nottingham
i lunio peintiadau a delweddau digidol newydd sy’n adlewyrchu rhyfeddod a graddfa twf organeddau.
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd |
Bydd y prosesau a ddefnyddir i greu’r darnau terfynol yn cynnwys sawl cam, gan ddefnyddio amrywiol ffurfiau o dechnoleg, gan gynnwys y camau archwilio organeddau a dadymdroelliad delweddau - tebyg i’r hyn a ddefnyddir fel rheol i ridyllu ac egluro gwybodaeth mewn delweddau microbiolegol. Bydd y delweddau digidol a’r peintiadau a luniwyd gan ddefnyddio’r deunydd ffynhonellol hwn yn llunio’r arddangosfa.
Bydd yr arddangosfa’n agor ar ddydd Sadwrn 12 Mawrth gyda’r rhagarddangosiad swyddogol ddydd Mawrth 15 Mawrth 7-9pm.
A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.
Oriau Agor Oriel Indigo
9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn
Mynediad am Ddim