Oriel Wrecsam - Oriel Indigo

Creu Cysgodion

30 Medi – 27 Tachwedd 2011
Cip o flaen llaw: Dydd Gwener 30ain Medi 6-8pm

Gwaith/Ffilmiau/Fideos/Gosodiadau cydweithredol diweddar
gan Ruth Carter a Tom Gilhespy

Mae’r cydweithrediad yma’n uniad arbrofol rhwng gwneuthurwr ffilmiau a cherflunydd sy’n parchu eu dulliau a’u syniadau ei gilydd ond sydd â dulliau hollol wahanol o greu delweddau gweledol. Doedd y canlyniadau ddim wedi’u penderfynu o flaen llaw o gwbl.

Y pwrpas cyffredin yw archwilio dulliau a threfnau gweithio newydd, ehangu amrywiaeth a thiriogaeth yr ymdrech artistig unigol a sicrhau’r fformat gorau ar gyfer arddangos y canlyniadau.

Yn anochel, mae gan gyfuniad o’r math yma raddau amrywiol o ansicrwydd yn perthyn iddo ond mae wedi llwyddo hefyd am fod y gwaith fideo a grëwyd wedi derbyn canmoliaeth yn Estonia, Denmarc a Rwsia. Mae un llinyn o’r gwaith yn ceisio cyflwyno pynciau symbolaidd traddodiadol gyda sgript amgen, mewn llinyn arall, mae delweddau noir wedi’u cyflwyno gydag ysgafnder sy’n taro rhywun yn od, tra bo llinyn arall yn cofnodi digwyddiadau dinistriol neu afluniad bychan.

Mae swn yn chwarae rôl integral pwysig. Mae cyfeiriadau hanesyddol, hyd yn oed ymdeimlad o hiraeth, mewn llawer o’r gwaith y gellid ei ddisgrifio, efallai fel y disgwyliech, yn perthyn yn anghyfforddus rhywle rhwng gwaith gwneud ffilmiau naratif traddodiadol a chelf fideo gyfredol.

Admission free

yn ôl i'r brig