Wyneb 2 - 11 Medi - 17 Hydref
Nid yw llun yn ddisgrifiad o'r byd - mae'n rhywbeth er ei fwyn ei hun." - Jennifer Durrant
Thema'r arddangosfa yw archwilio agweddau gwahanol arwynebau naturiol yng-nghydestun genres unigol a gwahanol y ddwy artist y tirlun a'r damhegol. Mae wyneb y graig ac wyneb y portread yn wynebu ei gilydd drwy wyneb y cynfas, yn creu deialog rhwng haniaeth a neo-realaeth.
Archwilia peintiadau Sophie Henderson ddelweddau o Gylch Meini Swinside, delwedd sy'n llawn cysylltiadau rhamantus a gyflwynir ac a ailddatblygir mewn cyd-destun cyfoes.
Dengys peintiadau damhegol llawn bywyd Catherine MacDiarmid archwiliad o wahanol wynebau o edrychiad hir i gipolwg cyflym. Mae'r ddwy'n ymgymryd â'u genres mewn dull byw ac anhraddodiadol.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
| Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd | |
Mae Sophie a Catherine in ddau artist cwbl wahanol i'w gilydd sy'n gweithio'n annibynnol ac er bod ansawdd eithriadol y lluniau'n gwbl amlwg pan fydd rhywun yn edrych ar eu gwaith ar wahân, mae'n cael ei bwysleisio ymhellach pan fydd eu gwaith yn cael ei arddangos gyda'i gilydd.
Dymchwelir y drafodaeth 'trosiadol yn erbyn damcaniaethol' ddiflas a ddigwydd ar adegau gan effaith bwerus eu cyfosodiad ansoddol a chyfartal. Mae'r ddwy'n frwd am eu pynciau ac yn gwneud archwiliadau gweledol dwys a dadansoddol. Y gwahaniaeth yw bod Sophie'n delio â thirlun, sy'n enfawr, pell ac ynysig, tra bod Catherine yn astudio manylion pobl yn agos iawn, yn enwedig y rhai y mae'n eu caru.
Prif ddiddordeb Sophie nawr yw'r cylch cerrig neolithig yn ne-orllewin Cymbria ac mae ei lluniau wedi eu trefnu fel mapiau â sawl haen. Mae ei teithiau gwyliadol o olygfeydd awyr agored yn parhau ar draws wyneb gwastad y cynfas neu'r papur lle mae elfennau hen a newydd o'r tirlun yn ymdoddi ac yn troi yn farciau a siapiau a lliwiau sy'n dod yn bethau er eu mwyn eu hunain.
Mae lluniau Catherine, ar y llaw arall, yn talu sylw manwlgywir i fanylion ond mae eu maint yn enfawr a chyrhaeddant fannau nad yw unrhyw gamera yn eu cyrraedd. Maent yn dangos realiti sy'n deillio o emosiwn tanbaid a gallu artist i gyfleu teimladau â phaent. Mae hi'n rhan o'r un amgylchedd trosiadol y mae'n ei beintio. Mae'n amlwg y daeth ei babi hi o'i chorff hi ac mae'n ymddangos bod ei lluniau'n rhan o'r un broses gorfforol.
Dick Capel - (Swyddog Cefn Gwlad a Rheolwr Prosiect Celfyddyd Cyhoeddus Dwyrain Cymbria)