Archif Oriel Indigo

Steffan Jones-Hughes: I lie awake at night and listen to birds singing

30 Awst - 11 Hydref 2008

Mae 'I lie awake at night and listen to birds singing' yn gorff newydd o waith a grewyd dros y tair blynedd ddiwethaf sy'n edrych ar ba mor fregus yw bywyd, lle, perthnasau ac amser.

Mae yna rywbeth ynghylch ddweud stori sy'n dibynnu ar ailadrodd hanesion a'u trosglwyddo i rywun arall. Yn yr arddangosfa newydd hon a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Steffan Jones-Hughes yn edrych ar wahanol ffyrdd o adrodd straeon. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys llyfrau, ail-greu'r 'Guardian Guide', gwrthyrychau, printiau, darluniau ac arlunwaith.

Hawlfraint wedi ei gadw gan yr arlunydd

Fel yr eglura Steffan:
"Mae'r gwaith hwn yn edrych ar dirwedd bersonol sydd wedi’i chreu o gymeriadau gwahanol ond dwi'n hapus i'r ymwelwyr â'r arddangosfa eu dadansoddi fel y mynnant. Mae hyn weithiau'n dweud mwy am yr ymwelydd na'r artist. Beth petawn i'n aderyn? Gallwn i fynd trwy fywyd yn poeni dim am y byd bregus a beth allai ddigwydd."

Gallwch weld proffil yr artist a mwy o fanylion am yr arddangosfa ar y wefan: www.axisweb.org/artist/steffanjoneshughes (cyswllt allanol). Mae'r arddangosfa yn Oriel Wrecsam yn cynnwys lluniadau, paentiadau, gwneud printiau, llyfrau a gwrthrychau. Mae'r arddangosfa’n agor ar ben-blwydd yr artist yn ddeugain ar 29 Awst ac yn parhau tan 11 Hydref 2008. Gallwch weld gwaith Steffan hefyd yn Arddangosfa 'Double Vision' yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi o 5 Medi ymlaen.


A fyddech yn hoffi i ni anfon y daflen hon yn uniongyrchol i'ch cartref? Cwblhewch ein ffurflen gais ar lein am lyfryn gwybodaeth.


Oriau Agor Oriel Indigo

9.30am - 6.45pm Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 3.45pm Dydd Sadwrn

Mynediad am Ddim

yn ôl i'r brig